Lviv

Oddi ar Wicipedia
Lviv
Trem ar Hen Dref Lviv.
Mathdinas, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Uk-Львів (2).oga, Pl-Lwów.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth717,273 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1256 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndriy Sadovyi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVilnius, Lublin Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Dinas Lviv Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd182 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr296 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Poltva Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRaion Lviv Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.8425°N 24.0322°E Edit this on Wikidata
Cod post79000–79490 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Lviv Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndriy Sadovyi Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganDaniel o Halychyna Edit this on Wikidata

Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Lviv yw Lviv (Wcreineg: Львів, Pwyleg: Lwów, Almaeneg: Lemberg, Rwseg: Львов Lvov; trawslythrennu: Lfif).[1] Dyma'r ddinas fwyaf yng Ngorllewin Wcráin a'r ddinas seithfed fwyaf yn yr holl wlad, yn safle hanesyddol bwysig yn rhanbarth Halychyna (Galisia) ac yn ganolfan ddiwylliannol yn Nwyrain Ewrop. Saif ar gyrion deheuol bryniau Roztochia, nid nepell o'r ffin â Gwlad Pwyl.

Sefydlwyd caer yma yng nghanol y 13g gan Daniel Romanovich, Tywysog Halychyna, a gafodd ei henwi'n Lvihorod ar ôl ei fab, y Tywysog Lev. Dyma oedd prifddinas Teyrnas Rwthenia o 1272 nes iddi gael ei chipio gan Kazimierz III, Brenin Gwlad Pwyl, ym 1349. Byddai'n groesfan bwysig ar lwybrau masnach rhwng y gorllewin a'r dwyrain, ac yn safle strategol am ei bod yn agos i'r bylchau drwy'r Carpatiau. Ym 1434, dan reolaeth Teyrnas Pwyl, dyrchafwyd Lwów yn brifddinas ranbarthol foifodiaeth Rwthenia. Cafodd y ddinas ei chipio am dro gan y Cosaciaid ym 1648, ac eto gan luoedd Sweden ym 1704 yn ystod Rhyfel Mawr y Gogledd.[2] Yn sgil rhaniad cyntaf Gwlad Pwyl ym 1772, daeth y ddinas yn rhan o Deyrnas Galisia a Lodomeria, un o diroedd coronog y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Meddianwyd y ddinas gan Ymerodraeth Rwsia o 1914 i 1915, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi'r rhyfel bu'n brifddinas Gweriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin, a fodolai am ychydig fisoedd cyn iddi gael ei gorchfygu ac ardal Lwów ei chyfeddiannu gan Weriniaeth Pwyl ym 1919. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ym 1939, cipiwyd y ddinas gan yr Undeb Sofietaidd a chafodd ei hymgorffori'n rhan o Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]