Wcreineg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yw'r Wcreineg. Hon yw iaith swyddogol yr Wcráin a phrif iaith yr Wcreiniaid. Siaredir hefyd gan gymunedau Wcreinaidd yng Nghasachstan, Moldofa, Gwlad Pwyl, Rwmania, Lithwania, a Slofacia. Fe'i ysgrifennir gan ddefnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae rhywfaint o gyd-eglurder rhwng yr Wcreineg a'r Felarwseg a'r Rwseg, ac ohonyn nhw y tarddodd yn y 12fed a'r 13g. Fel y Felarwseg, mae ynddi lawer o eirfa a fenthyciwyd o'r Bwyleg.[1]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Ukrainian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2014.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: cyd-eglurder o'r Saesneg "mutual intelligibility". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.