Neidio i'r cynnwys

Amffitheatr

Oddi ar Wicipedia
Amffitheatr
Mathadeilad digwyddiadau, sylvan theater Edit this on Wikidata
Enw brodorolamphithéâtre Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0f48p edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF25565 edit this on wikidata
QuoraAmphitheatre edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amffitheatr Verona yn yr Eidal gyda'r nos

Mae amffitheatr yn adeilad crwn neu eliptaidd â chanddo graddau o eisteddleodd sy'n codi oddi amgylch arena ganolog. Fe'i dyfeisiwyd gan y Rhufeiniaid ar gyfer llwyfannu gornestau gladiatoriaid a sioeau bwystfilod gwyllt, brwydrau môr ffug, ac ati.

Codid amffitheatrau pren bychain ledled y byd Rhufeinig o gyfnod cymharol cynnar ymlaen. Yr amffitheatr garreg cynharaf yw honno yn Pompeii, a godwyd tua'r flwyddyn 70 CC.

Amffitheatr Pompeii o'r awyr

Y Colosseum yn Rhufain yw'r enghraifft fwyaf ond ceir enghreifftiau da yn Asia Leiaf, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hefyd, yn ogystal ag yn Ewrop ei hun. Yng Nghymru ceir enghraifft dda yn hen ddinas Caerleon.

Rhai amffitheatrau nodedig

[golygu | golygu cod]