Amffitheatr El Jem

Oddi ar Wicipedia
Amffitheatr El Jem
MathRoman amphitheatre Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolThysdrus Edit this on Wikidata
SirEl Jem Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd1.37 ha, 26.42 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.2964°N 10.7069°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, listed monument of Tunisia Edit this on Wikidata
Manylion

Mae amffitheatr El Jem, a elwir hefyd yn Colosêwm Thysdrus, yn amffitheatr Rufeinig a godwyd yn ôl pob tebyg yn OC 238 dan awdurdod y proconsul Rhufeinig Gordian (a ddaeth yn ymerodr Rhufain yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn) ac a ddefnyddid ar gyfer gornestau gladiator, rasys cerbydau a gemau eraill y syrcas Rhufeinig. Fe'i lleolir yn ninas hynafol Thysdrus (El Jem heddiw) yn nhalaith Rufeinig Affrica (Tiwnisia).

Amffitheatr El Jem

Ystyrir amffitheatr El Jem i fod y trydedd fwyaf yn y byd Rhufeinig, ar ôl y Colisseum enwog yn Rhufain ac amffitheatr Capua (mae'r enghreifftiau yn Verona, Carthago a Pouzzoli yn ogystal yn ymgeisyddion am y fraint honno). Mae gan yr amffitheatr a'r adeiladau atodol arwynebedd o 147,90 medr gyda hyd o 138m a lled o 114m. Gellir gweld o hyd y twneli ar gyfer llewod ac anifeiliad eraill ynghyd â system cymhleth o bibellau, ffosydd a chronfeydd ar gyfer dŵr glaw.

Er gwaethaf y ffaith fod rhan ohoni wedi'i dinistrio pan gymerwyd cerrig i godi adeiladau yn El Jem, mae'n aros mewn cyflwr eithriadol o dda a chredir ei bod wedi aros yn gyfan hyd ddechrau'r 18g. Mae'r amffitheatr ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1979.

Gelwir amffitheatr El Jem yn Ksar al-Kahena weithiau (Caer La Kahena), ar ôl y dywysoges Berber enwog o'r 7g Al Kahina a arweiniodd y llwythau Berber brodorol yn erbyn y goresgynwyr Arabaidd Mwslim. Yn ôl un fersiwn o'i hanes, ar ôl colli'r dydd mewn brwydr ffoes gyda chriw o ddilynwyr i amffitheatr El Jem a llwyddodd i wrthsefyll yr Arabiaid am bedair blynedd arall gan droi'r amffitheatr yn gaer.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Drapeau de la Tunisie Safleoedd archaeolegol Tiwnisia Antiquités

Bulla Regia · Carthago · Chemtou · Cilium · Dougga · Amffitheatr El Jem · Gigthis · Haïdra · Kerkouane ·
Mactaris · Musti · Oudna · Pheradi Majus · Sbeïtla · Thapsus · Thuburbo Majus · Utica