Verona

Oddi ar Wicipedia
Verona
Mathcymuned, dinas, dinas fawr, ardal drefol, dinas-wladwriaeth Eidalaidd Edit this on Wikidata
Poblogaeth255,588 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 550 CC (tua) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethDamiano Tommasi Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
München, Pula, Nîmes, Salzburg, Bethlehem, Ra'anana, Mashhad, Ningbo, Saint-Josse-ten-Noode, Košice, Nagahama, Fresno, Albany, Efrog Newydd, Batumi, Detmold, Korçë, Ayacucho, Lecce, Jagodina, Konya, Corfu, Corfu, Zintan, Zhuji, Tirana, Prilep, Namwon, Kragujevac, Kazan’, Johannesburg, Hangzhou, Serpukhov Edit this on Wikidata
NawddsantZeno of Verona Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Verona Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd198.92 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr59 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAdige Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBussolengo, Castel d'Azzano, Grezzana, Mezzane di Sotto, Negrar di Valpolicella, Pescantina, Roveré Veronese, San Giovanni Lupatoto, San Martino Buon Albergo, San Pietro in Cariano, Sommacampagna, Sona, Villafranca di Verona, Buttapietra, San Mauro di Saline, Tregnago Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.4386°N 10.9928°E Edit this on Wikidata
Cod post37100, 37121–37142 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholVerona city council Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Verona Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethDamiano Tommasi Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Verona, sy'n brifddinas talaith Verona yn rhanbarth Veneto. Saif yr hen ddinas a chanol y ddinas fodern tu mewn i ddolen o Afon Adige ger Llyn Garda.

Roedd poblogaeth comune Verona yng nghyfrifiad 2011 yn 252,520.[1]

Ym wreiddiol roedd Verona, neu Veronia, yn eiddo i'r Euganei, ond bu raid iddynt ei hildio i'r Cenomani tua 550 CC. Tua 300 CC meddiannwyd dyffryn Afon Po gan y Rhufeiniaid. Daeth Verona yn colonia Rufeinig yn 89 CC, ac yn municipium yn 49 CC.

Roedd y ddinas mewn safle strategol bwysig, lle roedd nifer o briffyrdd yn cyfarfod. Gorchfygodd Stilicho y Visigothiaid dan Alaric yma yn 403. Yn 489, cipiodd y Gothiaid y ddinas, ac adeiladodd Theodoric ei balas yno. Yn 569 cipiwyd hi gan Alboin, brenin y Lombardiaid.

Enwyd y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO oherwydd y nifer fawr o adeiladau hanesyddol yno, o'r cyfnod Rhufeinig ac o'r Canol Oesoedd. Yr amffitheatr Rufeinig yw'r drydedd yn yr Eidal o ran maint. O'r cyfnod diweddarach, ystyrir y Basilica di San Zeno Maggiore (1123-1135) yn un o'r enghreifftiau gorau o bensaerniaeth Romanesg. Creybwyllir ei thŵr gan Dante yn ei Divina Commedia. Ceirnifer o eglwysi nodedig eraill yma hefyd.

Yr Arena
Yr Arena 

Pobl enwog o Verona[golygu | golygu cod]

Yn Verona y lleolwyd stori Romeo a Juliet yn nrama William Shakespeare, er fod y fersiynau cynharaf o'r stori yn rhoi'r lleoliad yn Siena.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018
Golwg banoramig o'r ddinas o Castel San Pietro