Kazan’

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kazan'
Gweriniaeth Tatarstan
Kazana Krievija.png
Lleoliad Kazan'
Flag of Kazan (Tatarstan).png
Coat of Arms of Kazan (Tatarstan) (2004).png
Daearyddiaeth
Arwynebedd 425.2 km²
Uchder uwchben lefel y môr m
Demograffeg
Poblogaeth (Cyfrifiad 2010) 1,143,535
Poblogaeth (amcangyfrif 2005) 1,110,000
Gwleidyddiaeth
Maer Ilsur Metshin

Prifddinas Gweriniaeth Tatarstan a dinas wythfed fwyaf Rwsia o ran poblogaeth yw Kazan' (Rwsieg Казань / Kazan', Tatareg Казан neu Qazan, Mari Osun). Lleolir yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd, ar aber Afon Volga ac Afon Kazanka, 800 km i'r dwyrain o Foscfa.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Tybir i'r ddinas gael ei sefydlu ym 1005 gan Fwlgariaid y Volga. Er nad oes tystiolaeth eglur am ddyddiad ei sefydlu, mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu i safle kremlin y ddinas gael ei anheddu yn yr 11g. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas mewn brut yn dyddio i 1177. Fel rhan o'r Llu Euraidd, daeth Kazan' yn ganolfan fasnachol a gwleidyddol o bwys. Ar ôl cwymp y Llu Euraidd, roedd yn brifddinas i Khanaeth Kazan a ffurfiwyd ym 1437 neu 1438. Ar ôl brwydr i gadw ei hannibyniaeth yn erbyn Rwsia, cipiwyd gan y Rwsiaid o dan Ifan IV ym 1552. Cafodd ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Gwrthryfel Pugachev ym 1774. Yn y 14g daeth yn ganolfan addysg gyda sefydliad Prifysgol Wladwriaethol Kazan ym 1804. Bu Lenin yn astudio yn y brifysgol yn y 1880au a'r 1890au. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, mae'r ddinas wedi diwygio: agorwyd system metro yn Awst 2005, a chwplhawyd mosg mwyaf Rwsia Qolsharif o fewn kremlin Kazan yn yr un flwyddyn.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae poblogaeth y ddinas yn gymysgedd bron cyfartal o Rwsiaid a Tatariaid.

Pensaernïaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychwanegwyd Kremlin Kazan' at restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO ym 2000. Mae Mosg Qolsharif yn ei dominyddu.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Prifysgol Wladwriaethol Kazan ymysg prifysgolion hynaf Rwsia. Llofnodwyd ei siarter sefydlu gan Tsar Alexander I ar 5 / 17 Tachwedd 1804. Roedd y matemategydd Nikolay Lobachevsky yn rheithor o'r brifysgol o 1827 tan 1846, pryd chwaraeodd y brifysgol rôl bwysig mewn datblygiad geometreg ddi-Ewclidaidd. Dafganfuwyd yr elfen rwtheniwm yn Kazan gan Karl Klaus ym 1844, ac roedd y brifysgol yn flaenllaw yn hanes cemeg organig diolch i waith Aleksandr Butlerov, Nikolay Zinin a Vladimir Markovnikov. Gweithiodd yr ieithydd Jan Baudouin de Courtenay, a ddyfeisiodd cysyniad y ffonem, yn Kazan o 1874 tan 1883. Ymysg cyn-fyfyrwyr enwog Prifysgol Kazan y mae'r nofelydd Lev Tolstoy, y gwleidydd a chwyldroadwr Vladimir Lenin a'r bardd Velimir Khlebnikov.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: