Jan Baudouin de Courtenay

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jan Baudouin de Courtenay
Jan Niecisław Baudouin de Courtenay.png
Ganwyd13 Mawrth 1845, 13 Mawrth 1846 Edit this on Wikidata
Radzymin Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1929 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
AddysgQ96633923 Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Charles yn Prague
  • Prifysgol Humboldt Berlin
  • Uniwersytet Warszawski
  • Prifysgol Jagielloński
  • Szkoła Główna Warszawska
  • Prifysgol Leipzig Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Izmail Sreznevsky Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd, athro cadeiriol, Arbenigwr mewn Esperanto, ieithegydd, Slafegydd, phonetician Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ffederal Kazan
  • Prifysgol Gatholig Lublin
  • Prifysgol Imperial Dorpat
  • Prifysgol Imperial Kazan
  • Prifysgol Jagielloński
  • Prifysgol Saint Petersburg
  • Prifysgol Tartu
  • Prifysgol Ymerodrol Sant Petersburg
  • Uniwersytet Warszawski Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolConstitutional Democratic Party Edit this on Wikidata
PriodBaudouin de Courtenay Edit this on Wikidata
PlantCezaria Baudouin de Courtenay Ehrenkreutz Jędrzejewiczowa, Zofia Baudouin de Courtenay Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Anna, 3ydd Dosbarth, Urdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Vladimir, 4ydd Dosbarth, Urdd Santes Anna, 3ydd Dosbarth, Medal "Er cof am Deyrnasiad yr Ymerawdwr Alexander III", Urdd Sant Stanislaus, Urdd Santes Anna, Urdd Sant Vladimir Edit this on Wikidata
Llofnod
Jan Baudouin de Courtenay signature.svg

Ieithydd a Slafegydd o Wlad Pwyl oedd Jan Niecisław Baudouin de Courtenay (1 / 13 Mawrth 1845 - 3 Tachwedd 1929). Fe'i hadwaenir heddiw yn bennaf am ddyfeisio damcaniaeth y ffonem, term a fathwyd ganddo.

Gweithiodd am ran fwyaf ei yrfa ym mhrifysgolion Ymerodraeth Rwsia, yn Kazan (1874-83), Yuryev (Tartu heddiw) (1883-93), Kraków (1893-99) a St Petersburg (1900-18). Ym 1919 dychwelodd i Wlad Pwyl, a oedd wedi ennill ei hannibyniaeth yn yr un flwyddyn, i weithio fel athro prifysgol yn Warsaw, lle gweithiodd tan ei farwolaeth ym 1929.

Cafodd ei waith ar y ffonem effaith sylweddol ar ieithyddiaeth yr ugeinfed ganrif fel sail i nifer o fframweithiau ffonolegol. Roedd ymysg y ieithyddion cyntaf i roi blaenoriaeth i ieithyddiaeth syncronig, yr astudiaeth o ieithoedd heb ystyried eu hanes, ac roedd ei waith yn ddylanwad cryf ar strwythuriaeth fel y'i datblygwyd gan Ferdinand de Saussure.


Baner Gwlad PwylEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Bwylwr neu Bwyles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.