Gweriniaeth Rhufain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Gweriniaeth Rhufain (19eg ganrif).

Gweriniaeth Rhufain oedd y cyfnod yn hanes Rhufain hynafol rhwng diorseddu'r brenin olaf tua 509 CC a sefydlu yr Ymerodraeth Rufeinig.

Yn y cyfnod cynnar, brenhinoedd oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, Tarquinius Superbus, tua 509 CC. Dan y drefn newydd, roedd dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.

Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3edd ganrif CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus.

Yng nganol yr 2il ganrif CC, bu rhyfel eto yn erbyn Carthago. Yn 146 CC cipiwyd dinas Carthago gan fyddin dan Scipio Aemilianus, ac ar orchymyn y senedd, dinistriwyd hi yn llwyr. Yr un flwyddyn gorchfygodd byddin Rufeinig arall dan Lucius Mummius fyddin y Cynghrair Achaeaidd ym Mrwydr Corinth, a daeth Groeg yn dalaith Rufeinig. Yn dilyn y brwydrau hyn, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.

Erbyn hyn roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu latifundia, ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.

Yn 133 CC etholwyd Tiberius Sempronius Gracchus yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw Lex Sempronia agraria. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr. Golygai hyn y byddai y cyfoethogion yn colli tiroedd helaeth, ac yn 132 CC lladdwyd Tiberius mewn terfysg yn y ddinas. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd ei frawd, Gaius Gracchus, fesurau mwy radicalaidd fyth, ond lladdwyd yntau.

Datblygodd terfysgoedd mewnol eto yn ystod y ganrif 1af CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad Marcus Antonius a gor-nai Cesar, Octavianus (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym Mrwydr Actium, daeth Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.

Taleithiau Rhufeinig yn 44 CC.

Ni ellir rhoi dyddiad pendant ar gyfer diwedd y Weriniaeth. Llwyddodd Augustus i gipio'r grym gwirioneddol i gyd i'w ddwylo ei hun, ond gwnaeth hynny mewn dull oedd yn cadw llawer o ffurfiau'r Weriniaeth, megis y Senedd a'r ddau gonswl. Ei deitl swyddogol oedd princeps, yn yr ystyr o'r "dinesydd cyntaf". Un dyddiad posibl sy'n nodi diwedd y Werimiaeth a dechrau'r Ymerodraeth yw 16 Ionawr 27 CC, pan bleidleisiodd y senedd i roi pwerau eithriadol i Augustus.


Rhufain hynafol She-wolf suckles Romulus and Remus.jpg
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig