Dante Alighieri

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dante)
Jump to navigation Jump to search
Dante Alighieri
Portrait de Dante.jpg
Portread o Dante gan Sandro Botticelli
GanwydDurante di Alighiero degli Alighieri Edit this on Wikidata
1265 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 1321, 14 Medi 1321, 22 Medi 1321 Edit this on Wikidata
o malaria Edit this on Wikidata
Ravenna Edit this on Wikidata
Man preswylFflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, damcaniaethwr gwleidyddol, awdur geiriau, rhyddieithwr, deallusyn, bardd, awdur, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDivina Commedia, Convivio, De Monarchia, De vulgari eloquentia, Vita Nuova Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAristoteles, Fyrsil, Ofydd, Boethius, Ptolemi, Homeros, Thomas Aquinas Edit this on Wikidata
MudiadDolce Stil Novo Edit this on Wikidata
TadAlighiero di Bellincione Edit this on Wikidata
MamBella degli Abati Edit this on Wikidata
PriodGemma Donati Edit this on Wikidata
PlantJacopo Alighieri, Pietro Alighieri, Antonia Alighieri Edit this on Wikidata
LlinachAlighieri Edit this on Wikidata

Bardd a llenor o Eidalwr yn yr ieithoedd Eidaleg a Lladin oedd Dante Alighieri (Mai 126514 Medi 1321, a aned yn Fflorens. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gerdd epig La Divina Commedia, ond roedd yn llenor dawnus yn yr iaith Ladin yn ogystal a edmygid yn ystod ei oes am ei draethodau ysgolheigaidd ar farddoniaeth Ladin glasurol yn bennaf.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Dante yn fab i gyfreithiwr yn Fflorens. Yn 1289 gwasanaethodd ym myddin Fflorens ac yn 1300 roedd yn farnwr yn y ddinas honno. Roedd wedi priodi Gemma Donati yn 1292 a chafodd bedwar plentyn ganddi. Yn 1301 cafodd ei anfon ar neges i weld y pab ond collodd ei blaid rym a chafodd ei alltudio o Fflorens. Bu farw yn Ravenna ar 14 Medi, 1321 a chafodd ei gladdu yno. Trwy gydol ei oes breuddwydiai am weld ymerodraeth Gristnogol newydd a fyddai'n dod â heddwch ac undeb i'r Eidal a gwledydd Cred. Pan yn blentyn, ac unwaith neu ddwy ar ôl hynny, cyfarfu â merch o'r enw Beatrice; ni phriodasant ond daeth hi i ymgorffori'r Awen a Chariad iddo (mae rhai ysgolheigion yn amau ei bodolaeth).

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd Dante tua deunaw mlynedd o'i oes yn ysgrifennu ei gampwaith, La Commedia (a adnabyddir heddiw fel La Divina Commedia - 'Y Ddrama Ddwyfol' - ar ôl teitl argraffiad pwysig a gyhoeddwyd 250 mlynedd yn ddiweddarach). Mae'n disgrifio pererindod ysbrydol enaid ddynol a arweinir gan Fferyllt (sy'n cynrychioli athroniaeth naturiol) a Beatrice (sy'n cynrychioli crefydd ddatguddiedig) trwy dair rhan Uffern a saith teras neu gylch Purdan i'r Baradwys ddaearol. Yna mae Fferyllt yn eu gadael ac mae Dante a Beatrice yn esgyn i gylchoedd y Nef ei hun. Mae'r Vita Nuova yn disgrifio cariad Dante at y ferch gig a gwaed Beatrice.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

De vulgari eloquentia, 1577

Cymdeithasau Dante[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]