Llyn Garda
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Garda |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | llynnoedd Gogledd yr Eidal |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 369.98 km² |
| Uwch y môr | 65 metr |
| Cyfesurynnau | 45.6333°N 10.6667°E |
| Dalgylch | 3,556 cilometr sgwâr |
| Hyd | 51.6 cilometr |
| Cadwyn fynydd | Alpau |
![]() | |

Llyn yng ngogledd yr Eidal yw Llyn Garda (Eidaleg Lago di Garda neu Benaco). Ef yw llyn mwyaf yr Eidal. Saif tua hanner y ffordd rhwng Fenis a Milan, yn yr Alpau. Ffurfiwyd y llyn gan rewlifoedd yn ystod Oes yr Iâ.
Mae pum ynys ynddo, Isola del Garda, y fwyaf, Isola San Biagio, Isola dell'Olivo, Isola di Sogno ac Isola di Trimelone. Afon Sarca yw'r fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn i'r llyn, tra mae afon Mincio yn llifo allan. Ceir rhywogaeth o bysgodyn, y Trota del Garda (Salmo carpio) sy'n unigryw i'r llyn yma.
Daeth y llyn yn gyrchfan boblogaidd dros ben i dwristiad; ymhlith yr atyniadau mae'r golygfeydd a hen ddinas Sirmione.
