Neidio i'r cynnwys

Romeo a Juliet

Oddi ar Wicipedia
Romeo a Juliet
Enghraifft o:gwaith dramatig Edit this on Wikidata
AwdurWilliam Shakespeare Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1590s, 1597 Edit this on Wikidata
Genretrasiedi, melodrama Edit this on Wikidata
CymeriadauRomeo, Juliet, Tybalt, Mercutio, Benvolio, Friar Laurence, Count Paris, Lady Capulet, Nurse, Lady Montague, Prince Escalus Edit this on Wikidata
Prif bwncforbidden love Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithVerona, Mantova Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/06fsr edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr y Quatro cyntaf, 1597

Trasedi gan William Shakespeare yw Romeo a Juliet (Teitl gwreiddiol Saesneg: The Most Excellent and Lamentable Tragedy of Romeo and Juliet neu Romeo and Juliet) am y berthynas rhwng dau Eidalwr ifanc o deuluoedd gelyniaethus gwahanol. Roedd hi ymhlith dramâu mwyaf poblogaidd Shakespeare yn ystod ei oes ac, ynghyd â Hamlet, yn un o'r rhai a berfformiwyd amlaf. Dyma'r ddrama olaf o waith Shakespeare i J. T. Jones ei chyfieithu i'r Gymraeg, a hynny cyn ei farw yn Nhachwedd 1975. Cafodd y cyfieithiad ei chyhoeddi gan Wasg Gwynedd ym 1983, ar y cyd â'i gyfieithiad o Bid Wrth Eich Bodd.[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]

Tylwyth llywodraethol Verona

Enw Shakespeare Enw J. T. Jones Disgrifiad
Prince Escalus Escalws Tywysog Verona
Count Paris Paris uchelwr ieuanc, perthynas i'r Tywysog a Mercŵtio.
Mercutio Mercŵtio perthynas i'r Tywysog a chyfaill Romeo

Tylwyth Cápwlet

Enw Shakespeare Enw J. T. Jones Disgrifiad
Capulet Cápwlet pennaeth teulu yn Verona, gelyniaethus i'r Montagiwiaid.
Lady Capulet Yr Arglwyddes Cápwlet
Juliet Capulet Juliet merch Cápwlet 13 oed
Tybalt Tubolt nai yr Arglwyddes Cápwlet
The Nurse Nyrs sef Nyrs i Juliet a'i mam-faeth gynt
Rosaline Rosalin gwrthrych serch Romeo cyn cwrdd â Juliet
Peter Pitar un o weision Cápwlet, yn gweini ar y Nyrs
Sampson Sampson gwas yn nhŷ Cápwlet
Gregory Grigor gwas yn nhŷ Cápwlet
Henwr yn perthyn i deulu Cápwlet
Antoni gwas yn nhŷ Cápwlet
Potpan gwas yn nhŷ Cápwlet
Clown gwas yn nhŷ Cápwlet
Gweithwyr gweision yn nhŷ Cápwlet

Tylwyth Móntagiw

Enw Shakespeare Enw J. T. Jones Disgrifiad
Montague Móntagiw pennaeth teulu yn Verona, gelyniaethus i'r Capwletiaid
Lady Montague Yr Arglwyddes Móntagiw
Romeo Montague Romeo mab Móntagiw
Benvolio Benvolio nai Móntagiw, a chyfaill Romeo a Mercŵtio
Abram Abram un o weision Móntagiw
Balthasar Balthasar un arall o weision Móntagiw, a chyfaill Romeo a Mercŵtio

Eraill

Enw Shakespeare Enw J. T. Jones Disgrifiad
Friar Laurence Y Brawd Lorens o urdd San Ffransis
Friar John Y Brawd Siôn o urdd San Ffransis
An Apothecary Apothecari ym Mántiwâ
Chorus Corws
Seimon Catrin

Huw Rebeca

Siôn Seinbost

Tri Cherddor
Gwylwyr
Dineswyr yn Verona, masgwyr, tors-gludwyr, ac eraill

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

"Yn nhre' Verona gynt, lle dodwn ni

'R olygfa hon, fe dry'r genfigen faith

Cyd-rhwng dau dylwyth o gyfartal bri

Yn gweryl gwaedlyd am y ganfed waith".[1]

Mae'r ddrama, a leolir yn Verona, yr Eidal, yn cychwyn gyda brwydr stryd rhwng gweision tylwythau Móntagiw a Cápwlet, sydd yr un mor elyniaethus a'u meistri, tuag at ei gilydd. Mae'r Tywysog Escalws o Verona yn ymyrryd, gan roi terfyn ar y brwydro, ac yn datgan "dan berygl tranc, ewch ymaith yn ddi-oed".[1] Yn ddiweddarach, mae'r Iarll Paris yn siarad â Cápwlet, ac yn gofyn am gael priodi ei ferch Juliet, ond mae Cápwlet, yn gofyn iddo aros ddwy flynedd, ac yn ei wahodd i fynychu dawns yng nghartref y Capwletiaid. Mae'r Arglwyddes Cápwlet, a Nyrs Juliet yn ceisio perswadio Juliet i dderbyn carwriaeth Paris. Yn y cyfamser, mae Benvolio'n siarad â'i gefnder Romeo, mab Móntagiw, am iselder diweddar Romeo. Mae Benvolio'n cael arddeall fod iselder ei gefnder yn deillio o'i gariad at ferch o'r enw Rosalin, un o nithoedd Cápwlet. Wedi'i berswadio gan Benvolio a Mercŵtio, mae Romeo yn mynychu'r ddawns yn nhŷ Cápwlet gan obeithio cwrdd â Rosalin. Fodd bynnag, mae Romeo yn cwrdd ac yn syrthio mewn cariad â Juliet. Mae cefnder Juliet, Tubolt, yn gandryll gyda Romeo am sleifio i mewn i'r ddawns ond mae tad Juliet yn ei atal rhag lladd Romeo, am nad yw am golli gwaed yn ei dŷ. Ar ôl y ddawns, yn yr hyn a adnabyddir bellach fel yr "olygfa balconi" enwog, mae Romeo yn canfod ei ffordd i berllan Cápwlet ac yn clywed Juliet yn addo ei chariad iddo, er gwaethaf casineb ei theulu at y Montagiwiaid. Mae Romeo'n gwneud ei hun yn hysbys iddi, ac maent yn cytuno i briodi. Gyda chymorth y Brawd Lorens, maent yn priodi'n gyfrinachol y diwrnod canlynol, yn y gobaith o gymodi'r ddau deulu trwy undeb eu plant.

"O Romeo, Romeo! Paham wŷd [chwantu] Romeo di?

Ymwâd â'r enw: ymwâd â'th deulu a'th dad;

Neu, twng i'r Nef dy fod yn gariad im, –

Mi wadaf innau yr enw Cápwlet!"[1]

Mae Tubolt sy'n dal yn gandryll bod Romeo wedi myned i'r ddawns, yn ei herio i ornest. Mae Romeo, sydd bellach yn ystyried Tubolt yn berthynas iddo, yn gwrthod ymladd. Mae Mercŵtio wedi'i dramgwyddo gan haerllugrwydd Tubolt, ac yn derbyn yr ornest ar ran Romeo. Mae Mercŵtio'n cael ei anafu'n angheuol, wrth i Romeo geisio rhoi terfyn ar y frwydr, ac yn adrodd y linell enwog "Plag arnoch-chi, ddau deulu!".[1] Drwy ei eiriau, mae Mercŵtio'n tyngu melltith ar y ddau deulu cyn iddo farw. Wedi'i alaru a'i boeni gan euogrwydd, mae Romeo'n wynebu ac yn lladd Tubolt.

Mae Móntagiw'n dadlau bod llofruddiaeth Tubolt gan Romeo yn weithred deg, am bod Tubolt wedi llofruddio Mercŵtio. Mae'r Tywysog, sydd bellach wedi colli perthynas yn sgil y rhyfel rhwng y ddau deulu, yn alltudio Romeo o Verona, dan fygwth ei gosbi â marwolaeth os bydd byth yn dychwelyd. Yn guddiedig a chyfrinachol, mae Romeo'n treulio'r nos yn ystafell Juliet, gan selio eu priodas. O gamddehongli galar a thristwch ei ferch Juliet, mae Cápwlet yn cytuno i'w phriodi â'r Iarll Paris, gan fygwth ei dileu o'r teulu os bydd hi'n gwrthod. Gwrthod cais ei merch i ohirio'r briodas wna ei mam hefyd.

Mae Juliet yn ymweld â'r Brawd Lorens am gymorth, ac mae'n cynnig diod iddi, fydd yn ei rhoi mewn trwmgwsg neu goma tebyg i farwolaeth am "ddeugain awr a dwy"[1]. Mae'r Brawd yn addo anfon negesydd, y Brawd Siôn, i hysbysu Romeo o'r cynllun fel y gall ymuno â hi, pan fydd hi'n deffro. Y noson cyn y briodas, mae hi'n cymryd y cyffur a, phan gaiff ei darganfod yn farw i bob golwg, caiff ei rhoi ym meddrod y teulu.

"Yn union deg fe draidd rhyw oerni swrth

Trwy dy holl wythi, a bydd curiadau'r gwaed

Yn mynd yn llai a llai, nes peidio'n llwyr:

Ni all na gwres nad anadl ddweud wrth neb

Dy fod yn fyw; fe dry rhosynnau gwridog

Dy fin a'th foch yn lludw llwyd; fe syrth

Llenni dy lygaid, a daw nos i'th drem,

Fel pe bai tranc yn diffodd golau dydd"[1]

Fodd bynnag, nid yw'r Brawd Siôn yn gallu cyfleu'r neges am Juliet i Romeo oherwydd bod y "pla" ym Mántiwâ wedi atal unrhyw un rhag teithio yno. Mae Romeo yn clywed am "farwolaeth" ymddangosiadol Juliet gan ei was, Balthasar, ac yn torri ei galon. Mae'n prynu gwenwyn gan yr apothecari ac yn mynd i feddrod y teulu Cápwlet . Mae'n cwrdd â Paris sydd wedi dod i alaru'n breifat am Juliet. Gan gredu bod Romeo ar drywydd rhyw ddrwgweithredu, mae Paris yn ymosod arno, ac yn y frwydr ddilynol, mae Romeo'n lladd Paris. Gan barhau i gredu bod Juliet wedi marw, mae Romeo yn yfed y gwenwyn. Yna mae Juliet yn deffro ac, wrth ddarganfod bod Romeo wedi marw, mae'n trywanu ei hun â'i chleddyf ac yn marw gyda'i phriod. Mae'r ddau deulu sy'n dal i ffraeo gyda'r Tywysog yn cwrdd wrth y bedd ac yn dod o hyd i'r tri yn farw. Mae'r Brawd Lorens yn adrodd hanes y "ddau gariad [...] drist eu ffawd"[1] a gollwyd, gan gyflawni'r felltith a dyngodd Mercŵtio. Mae'r teuluoedd yn cymodi gan farwolaethau eu plant ac yn cytuno i ddod â'u ffrae dreisgar i ben. Mae'r ddrama'n gorffen gyda marwnad y Tywysog i'r cariadon:

"Heddiw, tangnefedd trist yw rhodd y wawr:

Mae yntau'r haul yn cuddio'i wyneb prudd.

Ewch, a thrafodwch y drychineb fawr.

Daw cosb i rai: i eraill, pardwn fydd.

Cans ni fu stori dristach ers cyn co',

Na stori Juli-et a Rome-o."[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Nid yw'n hysbys pryd yn union y cyfansoddodd Shakespeare Romeo a Juliet. Mae Nyrs Juliet yn cyfeirio at ddaeargryn a ddigwyddodd "11 mlynedd yn ôl". Gall hyn gyfeirio at ddaeargryn yng Nghulfor Dover ym 1580, a fyddai'n rhoi inni'r flwyddyn 1591. Mae daeargrynfeydd eraill—yn Lloegr ac yn Verona—wedi'u cynnig i gefnogi dyddiadau gwahanol. Ond gan fod tebygrwydd arddull y ddrama i A Midsummer Night's Dream a dramâu eraill, fe'i dyddir yn gonfensiynol tua 1594–95, a gosod ei chyfansoddiad rywbryd rhwng 1591 a 1595. [2]

Mae Romeo a Juliet yn perthyn i draddodiad o ramantau trasig sy'n ymestyn yn ôl i'r henfyd. Mae'r plot yn seiliedig ar stori Eidalaidd a ysgrifennwyd gan Matteo Bandello, ac a gyfieithwyd ar gân farddonol gan Arthur Brooke ym 1562 fel The Tragical History of Romeus and Juliet. Benthycodd Shakespeare yn helaeth o'r plot trwy ddatblygu nifer o gymeriadau cefnogol, yn enwedig Mercŵtio a Paris. Cyhoeddwyd y ddrama gyntaf ym 1597, ond roedd y testun o ansawdd gwael, a chywirwyd fersiynnau diweddarach i gydymffurfio'n agosach â gwaith gwreiddiol Shakespeare.

Canmolwyd defnydd Shakespeare o strwythur dramatig barddonol (gan gynnwys effeithiau fel newid rhwng comedi a thrasiedi i gynyddu tensiwn, ehangu cymeriadau cefndir, a nifer o is-blotiau i addurno'r stori) fel arwydd cynnar o'i sgil dramatig. Mae'r ddrama'n priodoli gwahanol ffurfiau barddonol i wahanol gymeriadau, gan newid y ffurf weithiau wrth i'r cymeriad ddatblygu. Mae Romeo, er enghraifft, yn dod yn fwy medrus yn y soned dros gyfnod y ddrama.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Ystyrir Romeo a Juliet, ynghyd â Hamlet, yn un o ddramâu mwyaf poblogaidd Shakespeare. Hyd yn oed yn oes Shakespeare ei hun, roedd hi'n hynod boblogaidd. Mae'r ysgolhaig Gary Taylor yn gosod y ddrama fel y chweched mwyaf poblogaidd o ddramâu Shakespeare, yn y cyfnod ar ôl marwolaeth Christopher Marlowe a Thomas Kyd ond cyn goruchafiaeth Ben Jonson, pan oedd Shakespeare yn cael ei ystyried fel dramodydd mwyaf blaenllaw Llundain.[3]

Nid yw dyddiad y perfformiad cyntaf yn hysbys. Nodwyd yn argraffiad 1597 bod y ddrama wedi'i llwyfannu'n gyson : "it hath been often (and with great applause) plaid publiquely", gan osod y perfformiad cyntaf cyn y flwyddyn honno. Mae'n eithaf sicr mai Cwmni Gŵyr yr Arglwydd Siambrlen oedd y cyntaf i'w llwyfannu. Ar wahân i'w cysylltiadau cryf â Shakespeare, mae un argraffiad yn enwi un o actorion y cwmni, Will Kemp, yn hytrach na Pitar, mewn llinell yn Act V. Mae'n debyg mai Richard Burbage oedd y Romeo cyntaf, gan mai ef oedd prif drasiediwr y cwmni; a Robert Goffe (bachgen) fel y Juliet gyntaf.[4] Tybir mai yn Y Theatr y cafwyd y cynhyrchiad cyntaf, gyda chynyrchiadau cynnar eraill yn y Theatr y Curtain.

Yn ystod Yr Adferiad, cafodd ei hadfywio a'i diwygio'n helaeth gan William Davenant. Cadwodd fersiwn John Gielgud ym 1935 yn agos iawn at destun Shakespeare a defnyddiodd wisgoedd a llwyfannu Elisabethaidd i wella'r ddrama.

Cyfieithiad Cymraeg

[golygu | golygu cod]
Poster cynhyrchiad 2003

Wedi i gyfieithiad J. T. Jones gael ei chyhoeddi ym 1983, bu'n rhaid aros tan 2003 i Theatr Genedlaethol Cymru ei chyflwyno am y tro cyntaf o dan gyfarwyddyd Cefin Roberts; cynllunydd Guy O'Donnell; goleuo Mark Satchell; cyfansoddwr John Quirk; coreograffi Frances Newman; cast

Escalws -
Paris Dave Taylor
Mercŵtio Owen Arwyn
Cápwlet Maldwyn John
Yr Arglwyddes Cápwlet Buddug Verona James
Juliet Rhian Blythe
Tubolt Geraint Pickard
Nyrs Christine Pritchard
Pitar Huw Davies
Sampson Owen Arwyn
Grigor Dave Taylor
Móntagiw Huw Davies
Yr Arglwyddes Móntagiw Delyth Wyn
Romeo Lee Haven Jones
Benvolio Christopher Wallter-Evans
Abram Geraint Pickard
Balthasar Huw Davies
Y Brawd Lorens Wynford Ellis Owen
Y Brawd Siôn Owen Arwyn
Apothecari Delyth Wyn
Corws
Dineswyr yn Verona, masgwyr, tors-gludwyr, ac eraill Carys Eleri Evans
Clawr Golwg [25 Medi 2025] yn hysbysebu cynhyrchiad 2025

Ail lwyfannwyd y ddrama gan yr un cwmni yn 2025, dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, ynghyd â'i nifer o gyd-gyfarwyddwyr. Hysbysebwyd y cynhyrchiad fel un "arloesol" gan eu bod am gyflwyno'r ddrama yn ddwy-ieithog, yn union fel ag y gwnaeth y cynhyrchiad blaenorol yn 2003.[5]

Paris Imad Eldeen
Mercŵtio Owain Gwynn
Cápwlet Jonathan Nefydd
Yr Arglwyddes Cápwlet Michelle McTernan
Juliet Isabella Colby Browne (Annes Elwy a gyhoeddwyd yn wreiddiol)[6]
Tubolt Scott Gutteridge
Nyrs Llinor ap Gwynedd
Y Tywysog / Peter Gabin Kongolo
Romeo Steffan Cennydd
Benvolio Siôn Eifion (Dom James a gyhoeddwyd yn wreiddiol)[7]
Y Brawd Lorens Eiry Thomas

Addasiadau

[golygu | golygu cod]

Cafodd y ddrama ei haddasu sawl gwaith ar gyfer llwyfannau amrywiol fel ffilmiau, sioeau cerdd ac operâu. Yn yr 20fed ganrif ac i mewn i'r 21ain ganrif, mae'r ddrama wedi'i haddasu ar ffilm gan George Cukor (1936), Franco Zeffirelli (1968), Romeo + Juliet gan Baz Luhrmann (1996), a Romeo and Juliet gan Carlo Carlei (2013).

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • William Shakespeare, Romeo a Juliet. Bid wrth eich bodd, cyfieithiwyd gan T. J. Jones (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1983).
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Jones, J. T (1983). Romeo a Juliet / Bid Wrth Eich Bodd. Gwasg Gwynedd.
  2. Gibbons, Brian, ed. (1980). Romeo and Juliet. The Arden Shakespeare, second series. London: Thomson Learning. ISBN 978-1-903436-41-7.
  3. Taylor, Gary (2002). "Shakespeare plays on Renaissance Stages". In Wells, Stanley; Stanton, Sarah (eds.). The Cambridge Companion to Shakespeare on Stage. Cambridge: Cambridge University Press. pp. 1–20. ISBN 978-0-521-79711-5.
  4. Halio, Jay (1998). Romeo and Juliet: A Guide to the Play. Westport: Greenwood Press. ISBN 0-313-30089-5.
  5. "Romeo a Juliet". theatr.cymru. Cyrchwyd 2025-09-18.
  6. "Gwefan CCC".
  7. "Romeo a Juliet: Cyhoeddi cast rhagorol ar gyfer cynhyrchiad dwyieithog arloesol". theatr.cymru. Cyrchwyd 2025-11-25.