Melodrama

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Gwaith ffuglennol a nodweddir gan blot amrwd ac emosiwn eithafol yw melodrama.[1] Datblygodd y genre hon yn Ffrainc yn y 18g, a chynhwysodd y ffurf glasurol elfennau o gerddoriaeth, golygfeydd ysblennydd, cyffro, a gordeimladrwydd. Cyrhaeddodd y felodrama ei hanterth yn theatr Lloegr yn y 19g gan ddefnyddio effeithiau arbennig ar y llwyfan, a phortread dros ben llestri o gymeriadau drwg y stori.

Bôn y gair yw cyfuniad o'r geiriau Groeg melo (cân) a drama (drama).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  melodrama. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Mehefin 2015.
P culture.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.