Siena

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siena
PiazzadelCampoSiena.jpg
Stemma di Siena.svg
Math tref goleg, cymuned yn yr Eidal, dinas, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth 53,772 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Talaith Siena Edit this on Wikidata
Sir Talaith Siena Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd 118.53 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 322 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Asciano, Castelnuovo Berardenga, Monteroni d'Arbia, Sovicille, Monteriggioni Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.3183°N 11.3314°E Edit this on Wikidata
Cod post 53100 Edit this on Wikidata

Dinas yn nhalaith Toscana yn yr Eidal yw Siena. Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 52,839.[1]

Sefydlwyd Siena yn y cyfnod Etrwscaidd (tua 900 CC hyd 400 CC), pan oedd yn eiddo llwyth y Saina. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Augustus, sefydlwyd tref Rufeinig, Saena Julia, yma. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Siena gan Senius, mab Remus, brawd Romulus.

Nid oedd Siena yn dref lewyrchus iawn yn y cyfnod Rhufeinig, a dim ond wedi i'r ardal ddod i feddiant y Lombardiaid y daeth ei safle yn fwy addas ar gyfer masnach. Cipiwyd y ddinas gan Siarlymaen yn 774, a daeth yn ganolfan fasnach bwysig.

Yn ystod y 12g a'r 13g roedd Seiena yn ddinas-wladwriaeth anninynnol, a bu llawer o ymladd rhyngddi hi a dinas Fflorens. Ar 4 Medi 1260 ymladdwyd Brwydr Montaperti, pan enillodd y Sieniaid frwydr fawr dros fyddin Fflorens, gan ladd tua 15,000 ohonynt. Sefydlwyd Prifysgol Siena yn 1203. Daeth Gweriniaeth Siena i ben yn 1555, pan fu raid iddi ildio i Fflorens.

Ymhlith y prif atyniadau i ymwelwyr mae'r Duomo di Siena, yr eglwys gadeiriol, sy'n un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth Romanésg. Enwyd canol hanesyddol Siena yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Duomo di Siena 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 8 Mai 2018