Pula

Oddi ar Wicipedia
Pula
Mathtref yn Croatia Edit this on Wikidata
Hr-Pula.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth52,220 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethBoris Miletić Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCEST Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Graz, Trier, Imola, Verona, Čabar, Kranj, Varaždin, Novorossiysk, Hekinan, Villefranche-de-Rouergue, Sarajevo, Szeged, Benevento, Bwrdeistref Veles, Fienna, Pécs, Brno, Uzhhorod, Veles Edit this on Wikidata
Nawddsantdyrchafael Mair Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIstria Edit this on Wikidata
SirSir Istria Edit this on Wikidata
GwladBaner Croatia Croatia
Arwynebedd53.8 km², 53.8 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr30 ±1 metr, 0 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMotovun Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.8703°N 13.8456°E Edit this on Wikidata
Cod post52100 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBoris Miletić Edit this on Wikidata
Map
Arena Pula
Arena Pula

Y ddinas fwyaf yn Istria, Croatia, yw Pula (Lladin: Colonia Pietas Iulia Pola Pollentia Herculanea; Eidaleg: Pola; Slofeneg: Pulj), saif ar ben deheuol gorynys Istria, gyda phoblogaeth o tua 62,080 (yn 2006). Fel gweddill yr ardal, adnabyddir Pula am ei hinsawdd dyner, môr dof, a'i thirlun. Mae gan y ddinas draddodiad hir o greu gwin, pysgota, adeiladu llongau, a thwristiaeth. Mae hi hefyd yn brif ganolfan weinyddol Istria ers amser y Rhufeinwyr.

Hanes[golygu | golygu cod]

Tua 1800-1000 C.C.C., daeth math newydd o dref i Istria, y 'gradine', neu Bryngaer. Proto Illyriaid yw enw'r trigolion o'r 10g CC. Gorchfygwyd yr ardal gan y Rhufeinwyr yn 177 C.C.C., a daeth yn ddinas Rufeinig yn 46-45 CC o dan Julius Caesar. Tyfodd hyd at 30,000 o drigolion. Roedd yn borthladd sylweddol ac ailadeiladwyd hi dan merch Octavian, Iulia, a chafwyd yr enw Lladin Colonia Pietas Iulia Pola Pollentia Herculanea'. Adeiladwyd yr amffitheatr, Pula Arena rhwng 27 CC - 68 OC Mae hyn yn sefyll o hyd ynglŷn â rhai o'r deg porth Arch y Sergii, neu Borth Hercules. Erbyn 425 OC, roedd esgobaeth Gristnogol yn llywodraethu.

Dan Fenis[golygu | golygu cod]

Dinistriwyd y ddinas gan yr Ostrogothiaid, dan Odoacer, cadfridog foederati yn 476 AD ond daeth dan ddylanwad Ravenna (540-751) wedyn i ddod eto yn borthladd llewyrchus Bysantaidd. Mae'r Basilica Santes Fair Formosa yn dyddio o'r 6ed ganrif. Yn y 7g daeth bobl Slafaidd. Mae Cadeirlan Pula yn dyddio o'r 6g. Yn 788, roedd Pula yn perthyn i Charlemagne. Erbyn 1148 roedd hi yn nwylo Fenis. Mae'r castell fenetaidd yn sefyll ar y Capitolium Rhufeinaidd. Dinistriwyd Pula deirgwaith gan Fenis wedi gwrthryfeloedd yn 1243, 1267 ac 1397. Arhosodd yn nwylo Fenis tan 1797. Mae'r bardd Dante Alighieri yn canu amdani yn ei Divinia Comedia: "come a Pola, presso del Carnaro ch'Italia chiude e i suoi termini bagna" neu "mae Pula ar lan y Carnaro yn dynodi ffiniau'r Eidal". Ond erbyn 1750au, roedd dim ond 3,000 o drigolion. Rhoddwyd hi i'r frenhiniaeth Eidaleg gan Napoleon ac wedyn i Ffrainc fel Rhanbarthau Illyria.

Dan Awstria[golygu | golygu cod]

Llongau Rhyfel Awstro-Hwngaria ym Mula

Wedi cwymp Napoleon ym 1813, rhoddwyd Pula ac Istria i Awstria ac o 1859 daeth Pula i fod yn brif borthladd Awstria, adferwyd cyfoeth y ddinas a daeth ynys Brijuni yn balas haf i'r Hapsbwrgiaid. Dangosodd y ddinas yng nghyfrifiad 1910 bod 58,562 o bobl (45.8% yn Eidalwyr; 15.2% Slafaidd). O Hydref 30, 1904 i Fawrth 1905, roedd James Joyce yn dysgu Saesneg yr Ysgol Berlitz.

Dan yr Eidal[golygu | golygu cod]

Wedi 1918, heb yr Awstriaid, daeth dirywiad mawr, ac o dan Benito Mussolini, gadawodd y Slafiaid. Ond ym Medi 1943 meddiannwyd y ddinas gan y Wehrmacht o 1943–1945, a dioddefodd bomio sylweddol gan yr "Allies".

Dan Yugoslafia[golygu | golygu cod]

Rhwng 1945 -47 roedd Pula yn nwylo'r Cenhedloedd Unedig cyn ymuno â Croatia o fewn Yugoslavia ar Fedi 15, 1947. Gadawodd bron y cynaf o'i phoblogaeth (sef yr Eidalwyr).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]