Benito Mussolini

Oddi ar Wicipedia
Benito Mussolini
GanwydBenito Amilcare Andrea Mussolini Edit this on Wikidata
29 Gorffennaf 1883 Edit this on Wikidata
Predappio Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1945 Edit this on Wikidata
Giulino Edit this on Wikidata
Man preswylPalazzo Venezia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethItalian Social Republic, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, athro, gwleidydd, fascist Edit this on Wikidata
SwyddPrime Minister of the Kingdom of Italy, First marshal of the empire, minister of Interior of the Kingdom of Italy, minister of Interior of the Kingdom of Italy, gweinidog tramor, prif weinidog, minister of Foreign Affairs of the Kingdom of Italy, minister of Foreign Affairs of the Kingdom of Italy, minister of Foreign Affairs of the Kingdom of Italy, minister of Foreign Affairs of the Kingdom of Italy, minister of Public Works of the Kingdom of Italy, minister of Public Works of the Kingdom of Italy, minister of Public Works of the Kingdom of Italy, minister of War of the Kingdom of Italy, minister of War of the Kingdom of Italy, minister of War of the Kingdom of Italy, minister of the Navy of the Kingdom of Italy, minister of the Navy of the Kingdom of Italy, minister of the Navy of the Kingdom of Italy, minister of Air Force of the Kingdom of Italy, minister of Air Force of the Kingdom of Italy, minister of Air Force of the Kingdom of Italy, minister of Air Force of the Kingdom of Italy, minister of Italian Africa of the Kingdom of Italy, minister of Italian Africa of the Kingdom of Italy, minister of Italian Africa of the Kingdom of Italy, minister of Corporations of the Kingdom of Italy, minister of Corporations of the Kingdom of Italy, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal, national councillor to the Chamber of Fasci and Corporations Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Avanti! Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolRepublican Fascist Party, Plaid Ffasgaidd Genedlaethol, Plaid Sosialaidd yr Eidal, Fasci Italiani di Combattimento, Partito Fascista Rivoluzionario Edit this on Wikidata
MudiadItalian nationalism, Ffasgaeth Edit this on Wikidata
TadAlessandro Mussolini Edit this on Wikidata
MamRosa Maltoni Edit this on Wikidata
PriodRachele Mussolini, Ida Dalser Edit this on Wikidata
PartnerIda Dalser, Margherita Sarfatti, Clara Petei Edit this on Wikidata
PlantBruno Mussolini, Edda Mussolini, Vittorio Mussolini, Anna Maria Mussolini, Romano Mussolini, Benito Albino Dalser Edit this on Wikidata
PerthnasauGaleazzo Ciano, Alessandra Mussolini, Romano Floriani Mussolini Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd yr Eryr Gwyn, Grand cross of the Order of the White Lion, Urdd y Sbardyn Aur, Order of Lāčplēsis, Urdd y Quetzal, Collar of the Imperial Order of the Red Arrows, Knight of the Order of the Most Holy Annunciation, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Knight Grand Cross of the Colonial Order of the Star of Italy, Urdd Sofran Milwyr Malta, Urdd Marchogol y Beddrod Sanctaidd, Order of the German Eagle, Urdd y Baddon, Croes Rhyddid, Order of Skanderbeg, Order of the Roman Eagle, Urdd Croes y De, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd yr Eliffant, Cross of Vytis, Grand Collar of the Military Order of the Tower and Sword, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Honorary doctor of the University of Lausanne, Uwch Groes Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf, Order of the Chrysanthemum, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Uwch Groes y Llynges, gyda bathodyn gwyn, Medal Victoria, Order of the Star of Nepal, Urdd dros ryddid, Urdd Carlos Manuel de Céspedes, Urdd Solomon, Order of Saints Cyril and Methodius, Knight Grand Cross of the Military Order of Savoy Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Benito Amilcare Andrea Mussolini (29 Gorffennaf 1883 - 28 Ebrill 1945) yn wleidydd Eidalaidd ddaeth yn arweinydd plaid y Ffasgwyr yn yr Eidal pan y'i ffurfiwyd yn 1919. Daeth yn brifweinidog yr Eidal yn 1922. Rheolodd y wlad fel unben. Yn 1940 ymunodd yr Eidal dan arweinyddiaeth Mussolini yn yr Ail Ryfel Byd ar ochr Adolf Hitler. Fe'i lladdwyd gan wrthryfelwyr Eidalaidd yn Ebrill 1945.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Mussolini ar ei yrfa wleidyddol fel sosialydd brwd, ond cefnogodd ymuno'r Eidal yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei fwrw allan o Blaid Sosialaidd mewn canlyniad yn 1915. Yn 1919 ffurfiodd y Fasci di combattimento (Y Crysau Duon). Daeth i rym ar ôl arwain ymdaith y Crysau Duon i Rufain yn 1922. Bu'n brif weinidog hyd 1924 pan lofruddwyd Giacomo Matteoti a datganodd ei hun yn unben ar yr Eidal dan y teitl Il duce ('Yr Arweinydd').

Fel Il duce roedd ei lywodraeth yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd ar y dechrau. Cyflwynodd raglenni o waith cyhoeddus, gosododd drefn ar y wlad yn dilyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod ôl-Ryfel, a adferodd freintiau'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Dyma'r dyn "a wnaeth y trenau redeg ar amser". Cododd sawl adeilad a chofeb rhwysgfawr yn yr arddull Neo-Glasurol, wedi'u ysbrydoli gan 'fawredd' yr Ymerodraeth Rufeinig. Ond roedd yn llawdrwm iawn ar unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol hefyd a dioddefodd nifer o Eidalwyr am eu daliadau dan ei lywodraeth a chreulondeb brwnt y Crysau Duon.

O'r chwith i'r dde, gallwch weld cyrff difywyd y cyn wleidydd comiwnyddol Nicola Bombacci, y Duce Benito Mussolini, ei gariad ffyddlon Clara Petacci, y gweinidog Alessandro Pavolini a'r gwleidydd ffasgaidd enwog Achille Starace, yn cael eu harddangos yn y Plaza Loreto yn ninas Milan yn 1945.

Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn Ethiopia yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag Adolf Hitler a'r Natsïaid a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd Albania a phan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn Prydain a Ffrainc ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng Libia, Corn Affrica a Gwlad Groeg. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys Sisili yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid Ffasgaidd. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth ffasgaidd newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres Clara Petacci eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym Milan cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Luigi Facta
Prif Weinidog yr Eidal
31 Hydref 192225 Gorffennaf 1943
Olynydd:
Pietro Badoglio