Prifysgol Lausanne

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Lausanne
ArwyddairLe savoir vivant Edit this on Wikidata
Mathprifysgol gyhoeddus, comprehensive university Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1537 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLausanne Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Swistir Y Swistir
Uwch y môr383 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5225°N 6.5794°E Edit this on Wikidata
Map

Prifysgol a leolir yn ninas Lausanne, Vaud, yng ngorllewin y Swistir yw Prifysgol Lausanne (Ffrangeg: Université de Lausanne; UNIL).

Sefydlwyd Ysgol Lausanne (Lladin: Schola Lausannensis) yn 1537, yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, wedi i luoedd canton Bern gyfeddiannu Vaud a'i hymgorffori yn rhan o Hen Gydffederasiwn y Swistir. Dyma oedd yr unig ysgol ddiwinyddol i hyfforddi gweinidogion Protestannaidd Ffrangeg eu hiaith, er Lladin oedd iaith y gwersi. Erbyn 1547 roedd y celfyddydau, ieitheg Roeg, ac ieitheg Hebraeg yn rhan o'r cwricwlwm. Calfiniaid oedd diwinyddion Lausanne, a buont yn gwrthdaro â'r Zwinglïaid a oedd yn llywodraethu Bern. Agorwyd adeilad yr Academi yn 1587.[1] Yn 1621 rhoddwyd i'r Academi gan lywodraeth Bern yr awdurdod i benodi gweinidogion i'r Eglwys Ddiwygiedig yn ogystal â'u hyfforddi, a bu'r ysgol yn meddu ar y fraint honno nes 1838.[2] Erbyn 1741 roedd saith o gadeiriau academaidd gan yr ysgol: diwinyddiaeth ddogmataidd, dadleuaeth ddiwinyddol, Hebraeg a'r holwyddoreg, Groeg a moesoldeb, athroniaeth (gan gynnwys mathemateg a ffiseg), areithyddiaeth a llenyddiaeth, a'r gyfraith (sifil a naturiol), ac yn 1766 penodwyd yr athro meddygaeth cyntaf.[3]

Yn 1837, newidiodd swyddogaeth yr Academi yn sylweddol: nid oedd bellach yn ysgol ddiwinyddol ond yn sefydliad addysg seciwlar er hyfforddi a gwobrwyo cymwysterau i ddynion yn y proffesiynau, ac i gynnal diwylliant llenyddol a gwyddonol. Bellach, Ffrangeg oedd iaith yr addysg, a rhennid yr Academi yn dair cyfadran: y celfyddydau a'r gwyddorau, y gyfraith, a diwinyddiaeth, a chanddynt 17 o gadeiriau academaidd i gyd. Cafodd yr Academi ei gwneud yn brifysgol yn 1890.[4] Crewyd nifer rhagor o gyfadrannau yn ail hanner y 19g ac yn yr 20g. Yn 1970, symudodd y brifysgol o'i safle yn hen ddinas Lausanne, ger yr eglwys gadeiriol a'r Château, i'r campws newydd yn Dorigny.[5]

Palais de Rumine, un o hen adeiladau'r brifysgol yn Lausanne

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Ffrangeg) "L'UNIL au 16e siècle", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  2. (Ffrangeg) "L'UNIL au 17e siècle", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  3. (Ffrangeg) "L'UNIL au 18e siècle", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  4. (Ffrangeg) "L'UNIL au 19e siècle", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.
  5. (Ffrangeg) "Hier... et aujourd'hui", Prifysgol Lausanne. Adalwyd ar 24 Chwefror 2020.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]