Vaud
Jump to navigation
Jump to search
Un o gantonau'r Swistir yw canton Vaud (VD) (Almaeneg: Waadt). Saif yng ngorllewin y Swistir, ac mae'n ffinio ar Lyn Léman yn y de. Ei brifddinas yw Lausanne.
Roedd Vaud yn wreiddiol yn rhan o diriogaethau Savoie, a gipiwyd gan Berne. Daeth yn annibynnol ar 24 Ionawr 1798 wedi i Napoleon orchfygu'r diriogaeth, ac ymunodd a Chonffederasiwn y Swistir ar 14 Ebrill 1803.
Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 662,145. Ffrangeg yw prif iaith y canton.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |