Hebraeg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Temple Scroll.png
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoliaith, iaith fyw Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Canaanaidd, ieithoedd Iddewig Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMileniwm 2. CC Edit this on Wikidata
Enw brodorolעברית Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 5,353,950 (2014),
  •  
  • 3,950,000 (2016),
  •  
  • 9,000,000 (2014 – Israel)[1]
  • cod ISO 639-1he Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2heb Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3heb Edit this on Wikidata
    GwladwriaethIsrael Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuYr wyddor Hebraeg Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioAcademi'r Iaith Hebraeg Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
    Yr wyddor Hebraeg

    Mae Hebraeg yn iaith Semitaidd a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn Israel a thros y byd. Iaith wreiddiol yr ysgrythurau Iddewig (Hen Destament y Beibl Cristnogol) yw Hebraeg Beiblaidd (neu Glasurol). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr 2g OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y 19g a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr 20g.[2]

    Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae Iddew-Almaeneg neu Yiddish-Daitsch a Ladino (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.

    Un o wyrthiau ieithyddol yr 20g oedd adfywiad Hebraeg, na bu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i Israel, o Ewrop, Unol Daleithiau America, yr hen Undeb Sofietaidd ac Affrica, er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau Wlpan. Mae llyfr gan Norman Berdichevsky, 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.[3]

    Ysgrifennir Hebraeg yn ei gwyddor ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn gytsain. Dynodir llafariaid gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.

    Ymhlith cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Hebraeg fodern y mae;

    • 'Atgofion Haganah' (bywgraffiad o Israel) gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Gwasg y Brython, Lerpwl. 1972
    • 'Hanes Teulu fy Nhad' gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Taliesin cyf 29, t36-46 . Rhagfyr 1974
    • Cael y Llun yn Iawn. Cerdd gan Amir Or, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith. Taliesin cyf 131. Haf 2007.
    • "Does dim blodau i'r senorita". (stori fer ) gan Iotam Rewfeni, y cyfieithu gan Richard Crowe ac Amnon Shapiro. Tu Chwith, cyfrol 2. Haf 1994

    Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

    Wikipedia
    Argraffiad Hebraeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
    Wiktionary-logo-cy.png
    Chwiliwch am Hebraeg
    yn Wiciadur.