Edda Mussolini

Oddi ar Wicipedia
Edda Mussolini
Ganwyd1 Medi 1910 Edit this on Wikidata
Forlì Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ebrill 1995 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylVilla Torlonia Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
TadBenito Mussolini Edit this on Wikidata
MamRachele Mussolini Edit this on Wikidata
PriodGaleazzo Ciano Edit this on Wikidata
PlantFabrizio Ciano Edit this on Wikidata
PerthnasauArnaldo Mussolini, Edvige Mussolini, Anna Maria Villani Scicolone, Carla Maria Puccini, Alessandro Italico Mussolini, Vito Mussolini, Alessandra Mussolini Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Dewrder Milwrol Edit this on Wikidata

Roedd Edda Mussolini (1 Medi 1910 - 9 Ebrill 1995) yn ferch i'r unben o'r Eidal Benito Mussolini. Priododd â Gweinidog Materion Tramor yr Eidal, Galeazzo Ciano. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwirfoddolodd Edda i wasanaethu gyda'r Groes Goch o'r Eidal. Roedd hi ar llong ysbyty gafodd ei suddo gan awyrennau o Loegr ond goroesodd a pharhaodd i weithio i'r Groes Goch tan 1943. Yng Ngorffennaf 1943, pleidleisiodd ei gŵr, Galeazzo Ciano, yn erbyn Mussolini yn y Prif Gyngor Ffasgaidd. Cafodd ei arestio, ei roi mewn llys barn, a'i ddienyddio am frad. Dihangodd Edda Ciano i'r Swistir gan smyglo oddi yno ddyddiaduron ei gŵr a sgwennwyd yn ystod y rhyfel. Cafodd ei harestio a'i chadw yn y carchar ar Ynys Lipari ar ôl dychwelyd i'r Eidal. Ar 20 Rhagfyr 1945, fe'i dedfrydwyd i ddwy flynedd o garchar am gynorthwyo Ffasgaeth.[1]

Ganwyd hi yn Forlì yn 1910 a bu farw yn Rhufain yn 1995. Ei priod oedd Galeazzo Ciano.[2][3][4]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Edda Mussolini yn ystod ei hoes, gan gynnwys;

  • Medal Dewrder Milwrol
  • Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

    1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118968602. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
    2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118968602. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
    3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118968602. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Edda Ciano". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
    4. Dyddiad marw: "Edda Ciano". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.