Neidio i'r cynnwys

Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir

Oddi ar Wicipedia
Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir
Virtual International Authority File (VIAF)
Math o wefan
Peiriant chwilio, catalog ar-lein cynhoeddus
Ar gael ynSaesneg
PerchennogOCLC
Crëwyd ganProsiect rhwng 4 corff llyfrgellyddol
GwefanVIAF.org
MasnacholNac ydy
CofrestruNag oes

Math o ffeil i adnabod pobl drwy ddata unigol, unigryw yw Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, Rhithwir (Saesneg: Virtual International Authority File (VIAF)). Mae'n ffrwyth prosiect rhwng pedwar awdurdod ym myd llyfrgelloedd ac yn cael ei weithredu gan y Ganolfan Lyfrgelloedd Gyfrifiadurol Ar-lein (Online Computer Library Center (OCLC)).[1][2] Sbardunwyd y gwaith cychwynnol gan y Deutsche Nationalbibliothek (llyfrgell genedlaethol yr Almaen) a Llyfrgell y Gyngres ynUDA.

Y nod ydy dolennu'r ffeiliau awdurdodedig hyn (megis 'Ffeiliau Enwau Awdurdodedig yr Almaen') i un ffeil rithwir. Mae'r ffeil newydd hon yn uno nifer o gronfeydd data o wahanol lefydd mewn un lle. Mae'r cofnod VIAF yn derbyn rhif data safonol ac mae'n cynnwys cofnodion ar gyfer 'Gweler' a 'Gweler hefyd' - wedi'u tynnu o'r cofnodion unigol, gwreiddiol. Cyhoeddir y data ar-lein am ddim a chant eu defnyddio'n helaeth ar gyfer gwaith ymchwilio, cyfnewid a rhannu data.

Caiff y data eu diweddaru gan sawl parti, drwy brotocol 'Menter yr Archifdy Agored' (the Open Archives Initiative).

Mae rhifau unigryw'r ffeiliau'n cael eu hychwanegu at erthyglau Wicipedia megis bywgraffiadau, a hynny mewn llawer o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]