Bettino Craxi

Oddi ar Wicipedia
Bettino Craxi
Portread swyddogol o'r Prif Weinidog Bettino Craxi.
Ganwyd24 Chwefror 1934 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 2000 Edit this on Wikidata
Hammamet Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Milan
  • Prifysgol Urbino Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Prif Weinidog yr Eidal, Y Gweinidog dros Gyllideb a Chynllunio Economaidd, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSai Baba of Shirdi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd yr Eidal Edit this on Wikidata
TadVittorio Craxi Edit this on Wikidata
PartnerSandra Milo Edit this on Wikidata
PlantStefania Craxi, Bobo Craxi Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Croes Urdd Siarl III, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Gwleidydd Eidalaidd oedd Benedetto "Bettino" Craxi (24 Chwefror 193419 Ionawr 2000) a wasanaethodd yn Brif Weinidog yr Eidal o 1983 i 1987, y sosialydd cyntaf i fod yn bennaeth ar lywodraeth y wlad. Arweiniodd Blaid Sosialaidd yr Eidal o 1976 i 1993.

Ganed ef ym Milan, Teyrnas yr Eidal. Cyfreithiwr a gwleidydd Sosialaidd oedd ei dad, a ymfudodd o Sisili i ogledd y wlad. Yn 14 oed, gweithiodd Bettino ar ymgyrch aflwyddiannus ei dad yn yr etholiad i Siambr y Dirprwyon, ac ymaelododd â'r Mudiad Ieuenctid Sosialaidd yn 18 oed. Aeth i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Milan, ond gadawodd heb ennill ei radd, gan ymroddi'n gyfan gwbl i fyd gwleidyddiaeth.[1]

Esgynnai Craxi drwy rengoedd y Blaid Sosialaidd, a fe'i penodwyd yn aelod o'r pwyllgor canolog cenedlaethol ym 1957. Enillodd ei etholiad cyntaf, i gyngor dinesig Milan, ym 1960, a chafodd ei ddyrchafu'n ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd ym Milan ac yn aelod o bwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid ym 1965.[1] Etholwyd Craxi i Siambr y Dirprwyon am y tro cyntaf ym 1968 fel un o gynrychiolwyr Milan, a châi ei ail-ethol i'r un sedd ym 1972, 1976, 1979, a 1983.

Daeth Craxi yn is-ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd ym 1970, ac yn ysgrifennydd cyffredinol—ac felly arweinydd—ym 1976. Aeth ati i uno amryw ymbleidiau'r Sosialwyr ac i ymddiarddel â'r Blaid Gomiwnyddol, gan arddel polisïau cymedrol a symud y blaid i'r canol-chwith i'w gwneud yn fwy etholadwy. Dan arweiniad Craxi, ymunodd y Blaid Sosialaidd â phump o'r chwe llywodraeth glymblaid a ddaeth i rym yn yr Eidal yn y cyfnod 1980–83. Yn Ebrill 1983, penderfynodd i dynnu cefnogaeth ei blaid yn ôl o'r Pentapartito—y glymblaid o bum plaid ganolog a arweiniwyd gan y Democratiaid Crisnogol (DC)—gan ysgogi etholiad cyffredinol. Ym Mehefin, y Sosialwyr oedd y drydedd blaid yn nhermau'r nifer o bleidleisiau a seddi seneddol, y tu ôl i'r DC a'r Comiwnyddion. Cytunodd y DC i newid arweinyddiaeth y Pentapartito yn rheolaidd i barchu pob aelod o'r glymblaid, ac felly gwahoddwyd Craxi i ffurfio'r llywodraeth. Cychwynnodd yn swydd y prif weinidog ar 4 Awst 1983, yn bennaeth ar gabinet newydd o'r Pentapartito.

Fel prif weinidog, mabwysiadodd Craxi ddemocratiaeth gymdeithasol yn lle'r ffurfiau traddodiadol ar sosialaeth, gan ragflaenu tueddiadau cymedrol yr adain chwith Ewropeaidd yn y 1990au, megis y Drydedd Ffordd. Er enghraifft, ceisiodd gostwng chwyddiant gyda'i bolisi cyllidol. O ran polisi tramor, byddai'n ymlynu wrth Unol Daleithiau America, er iddo wrthod estraddodi Abu Abbas, terfysgwr a gyhuddwyd gan yr Unol Daleithiau o fod yn gyfrifol am gipio'r llong griws Achille Lauro. Ail-ffurfiodd Craxi y llywodraeth glymblaid ym 1986, ond yn Ebrill 1987 collodd gefnogaeth y DC, ac ymddiswyddodd fel prif weinidog ar 18 Ebrill. Parhaodd i arwain y Sosialwyr, ac ymunodd â phedair llywodraeth glymbaid arall o 1987 i 1992.

Cyhuddwyd Craxi o lygredigaeth wleidyddol, ac ymddiswyddodd fel ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd yn Chwefror 1993. Ni wadodd erioed ei fod wedi canlyn arian yn anghyfreithlon ar gyfer ei blaid, ond honnodd taw dyna oedd arfer pob plaid arall yn yr Eidal, a haerodd taw targedu gwleidyddol oedd i ganolbwyntio ar y Sosilwyr. Aeth Craxi yn alltud ar liwt ei hun ym 1993, cyn iddo gael ei ddedfrydu. Ymsefydlodd yn Nhiwnisia am weddill ei oes, a ni ddychwelodd i'r Eidal. Bu farw yn Al-Hammamet, Tiwnisia, yn 65 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Bettino Craxi", Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 27 Ionawr 2023.
  2. (Saesneg) Bettino Craxi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ionawr 2023.