Sisili
| Prifddinas | Palermo |
| Arlywydd | Rosario Crocetta |
| Taleithiau | Agrigento Caltanissetta Catania Enna Messina Palermo Ragusa Syracuse Trapani |
| Bwrdeistrefi | 390 |
| Arwynebedd | 25,708 km2 |
| - Safle | 1af (8.5) % |
| Poblogaeth - Cyfanswm - Safle |
5,017,212 4fed 8.5 % 195/km2 |
![]() |
|
| Lleoliad Sisili yn yr Eidal | |
Ynys yng nghanol y Môr Canoldir a rhanbarth o'r Eidal yw Sisili (hefyd Sisilia) (Sisilieg: Sicìlia; Eidaleg: Sicilia). Mae Culfor Messina yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Y brifddinas yw Palermo.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd Égadi ac Ynysoedd Lipari yw'r ddau grŵp mwyaf) mae'n rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal. Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd Etna.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymsefydlai'r Groegiaid ar yr ynys o'r 8fed ganrif CC ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y Carthaginiaid yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y Rhufeiniaid yn ail hanner y drydedd ganrif CC ac erbyn 211 CC roedd yn dalaith Rufeinig.
Goresgynwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn y 9fed ganrif a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn 1060 cyrhaeddodd y Normaniaid a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn 1266 coronwyd Siarl I, brenin Napoli a Sisili yn frenin Angevinaidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas Aragon yn 1284 yn sgîl Cyflafan y Gosber Sisiliaidd.
Creuwyd Teyrnas y Ddwy Sisili yn 1815 gan Ferdinand I o Awstria a Hwngari. Cipiodd Garibaldi yr ynys yn 1860 ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, tlodi a grym y Maffia a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r Unol Daleithiau oherwydd hynny.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Erbyn heddiw mae economi yr ynys yn bur ffynnianus. Un o'r diwydiannau mwyaf yw twristiaeth.
Cysylltiad Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Eidaleg) Gwefan swyddogol
|
|||||||
