Mario Draghi
Mario Draghi | |
---|---|
Mario Draghi yn 2021. | |
Ganwyd | 3 Medi 1947 Rhufain |
Dinasyddiaeth | yr Eidal |
Addysg | PhD mewn Economeg |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, banciwr, academydd, gwleidydd |
Swydd | Governor of the Banca d'Italia, President of the European Central Bank, Prif Weinidog yr Eidal |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad | Ignatius of Loyola |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Plant | Federica Draghi, Giacomo Draghi |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, honorary doctor of the University of Padua, Honorary doctor of the University of Bologna, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, gradd er anrhydedd, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, M100 Media Award, Gwobr Time 100, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Person y Flwyddyn y Financial Times, Global Citizen Awards |
llofnod | |
Economegydd a banciwr Eidalaidd yw Mario Draghi (
[ˈmaːrjo ˈdraːɡi]; ganwyd 3 Medi 1947) a fu'n Llywydd Banc yr Eidal o 2006 i 2011, yn Llywydd Banc Canolog Ewrop o 2011 i 2019, ac yn Brif Weinidog yr Eidal o 13 Chwefror 2021 i 22 Hydref 2022.
Ganed ef yn Rhufain, a gweithiodd ei dad i Fanc yr Eidal, banc canolog y wlad. Aeth i ysgol yr Iesuwyr, ac wedi iddo raddio o Brifysgol Rhufain aeth i Unol Daleithiau America i astudio economeg yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Draghi oedd yr Eidalwr cyntaf i ennill doethuriaeth o MIT, a hynny ym 1976. Yn y 1980au, addysgodd economeg ym Mhrifysgol Fflorens, a gweithiodd i Fanc y Byd yn Washington, D.C.[1]
Ymunodd Draghi â gwasanaeth sifil yr Eidal, ac ym 1991 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyffredinol y trysorlys. Yn ystod ei ddeng mlynedd yn y swydd honno, ac yn gadeirydd y pwyllgor preifateiddio cenedlaethol, cafodd ran allweddol wrth baratoi economi'r Eidal ar gyfer ymuno â'r Undeb Ariannol Ewropeaidd, trwy ostwng y ddyled wladol a'r diffygion cyllidebol blynyddol a sefydlogi cyfraddau llog a'r cyfraddau o gyfnewid y lira â'r arian cyfred mewn gwledydd eraill. O ganlyniad, llwyddodd yr Eidal i gael ei derbyn i ardal yr ewro ym 1999. Erbyn iddo adael y trysorlys yn 2001, adwaenir Draghi gan y llysenw "Super Mario". O 2002 i 2005, Draghi oedd is-gadeirydd a rheolwr-gyfarwyddwr Goldman Sachs International, is-gwmni'r banc buddsoddi Americanaidd Goldman Sachs, yn Llundain.[1]
Penodwyd Draghi yn llywydd Banc yr Eidal yn 2006, ac yn rhinwedd y swydd honno bu hefyd yn aelod o gyngor llywodraethol Banc Canolog Ewrop. Ym Mehefin 2011, etholwyd Draghi gan y Cyngor Ewropeaidd i olynu Jean-Claude Trichet yn llywydd Banc Canolog Ewrop, sydd yn gyfrifol am bolisi ariannol yr Undeb Ewropeaidd. Cychwynnodd yn y swydd yn ystod yr argyfwng mwyaf yn hanes yr ewro. Dan arweiniad Draghi, mabwysiadodd y banc bolisïau ymyraethol, gan gynnwys cyflwyno cyfraddau llog negyddol a defnyddio lliniaru meintiol i gynyddu hylifedd. Daeth ei dymor wyth-mlynedd i ben yn 2019, a fe'i olynwyd yn y llywyddiaeth gan Christine Lagarde.[2]
Yn Ionawr 2021, cwympodd llywodraeth Giuseppe Conte, Prif Weinidog yr Eidal, a methiant a fu'r ymdrechion i ailffurfio cabinet clymblaid. I osgoi etholiad disymwth yn ystod pandemig COVID-19, penderfynnodd yr Arlywydd Sergio Mattarella benodi Draghi yn brif weinidog ar lywodraeth o undod cenedlaethol.[3] Cychwynnodd yn y swydd ar 13 Chwefror 2021.[4] Aeth ati i sicrhau €191 biliwn oddi ar yr Undeb Ewropeaidd i adfer yr economi yn sgil effeithiau'r pandemig.[1] Bu Draghi hefyd yn gefnogwr amlwg dros undod Ewropeaidd yn wyneb goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn Chwefror 2022. Lluniodd Draghi a Janet Yellen, Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau, y sancsiynau economaidd yn erbyn Rwsia,[5] a cheisiodd leihau dibyniaeth yr Eidal ar nwy naturiol Rwsia drwy gytundeb ynni newydd ag Algeria.[6]
Ar 13 Gorffennaf 2022, datganodd Giuseppe Conte—bellach yn arweinydd y Mudiad Pum Seren—y byddai ei blaid yn peidio â chefnogi'r llywodraeth o undod cenedlaethol, gan beri argyfwng gwleidyddol. Wedi i'r llywodraeth golli pleidlais yn y senedd, cynigodd Draghi ei ymddiswyddiad, ond gwrthodwyd hynny gan yr Arlywydd Mattarella. Wedi wythnos o geisio ailffurfio llywodraeth glymblaid, diddymwyd y senedd ar 21 Gorffennaf 2022, a chynigodd Draghi ei ymddiswyddiad am yr eildro.[7] Yn sgil etholiadau ym Medi 2022, olynwyd Draghi yn Brif Weinidog yr Eidal gan Giorgia Meloni ar 22 Hydref.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Mario Draghi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ionawr 2023.
- ↑ (Saesneg) Andrew Walker, "Mario Draghi: His legacy after eight tumultuous years at the ECB", BBC (24 Hydref 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2023.
- ↑ (Saesneg) Nick Squires, "Italy's president asks 'Super' Mario Draghi to ride to rescue as next PM amid political deadlock", The Daily Telegraph (3 Chwefror 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 5 Chwefror 2021.
- ↑ (Saesneg) "Mario Draghi sworn in as Italy's new prime minister", BBC (13 Chwefror 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Chwefror 2021.
- ↑ (Saesneg) Valentina Pop, Sam Fleming a James Politi, "Weaponisation of finance: how the west unleashed ‘shock and awe’ on Russia", Financial Times (6 Ebrill 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 30 Ebrill 2022.
- ↑ (Saesneg) "Algeria becomes Italy's biggest gas supplier in new €4bn deal to reduce Russian dependency ", Euronews (18 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2023.
- ↑ (Saesneg) "Italian PM Mario Draghi resigns after week of turmoil", BBC (21 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Awst 2022.