Afon Po

Oddi ar Wicipedia
Afon Po
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPiemonte, Lombardia, Emilia-Romagna, Veneto Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.70144°N 7.09306°E, 44.97°N 12.5469°E Edit this on Wikidata
TarddiadPian del Re Edit this on Wikidata
AberMôr Adria Edit this on Wikidata
LlednentyddDora Baltea, Adda, Oglio, Mincio, Tanaro, Pellice, Sangone, Dora Riparia, Stura di Lanzo, Orco, Sesia, Agogna, Afon Ticino, Olona Inferiore, Lambro, Scrivia, Trebbia, Taro, Parma (river), Enza, Secchia, Panaro, Ghiandone, Chiavenna, Arda, Maira, Versa, Grana del Monferrato, Rotaldo, Scuropasso, Stura del Monferrato, Nure, Varaita, Crostolo, Staffora, Malone, Banna, Terdoppio, Curone, Chisola, Q2996825, Tepice, Tidone, Colatore Agognetta, Q3862842, Meletta, Torrente Leona, Rio di Valle Maggiore, Oglio Edit this on Wikidata
Dalgylch74,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd652 ±1 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad1,460 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Po (Lladin: Padus) yn afon sy'n tarddu ger Monviso yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo am 652 km (405 milltir) i'r dwyrain ar hyd gogledd yr Eidal. Mae'n cyrraedd y Môr Adriatig gerllaw Fenis. Afon Po yw'r afon hwyaf yn yr Eidal, ac mae ei dalgylch yn 71,000 km².

Mae'r afon yn llifo trwy nifer o ddinasoedd a threfi pwysig, yn cynnwys Torino, ac mae wedi ei chysylltu a Milan trwy rwydwaith o sianeli a elwir yn navigli. Bu gan Leonardo da Vinci ran yn y gwaith o gynllunio'r rhain. Cyn i'r afon gyrraedd y môr, mae'n ffurfio delta sylweddol, gyda llawr o sianeli bach a pump mawr: Po di Maestra, Po della Pila, Po delle Tolle, Po di Gnocca a Po di Goro.

Yn y cyfnod Rhufeinig gelwid dyffryn Afon Po yn Gallia Cisalpina, oedd yn cael ei rannu yn Gallia Cispadana i'r de o'r afon a Gallia Transpadana i'r gogledd. Heddiw gelwir dyffryn Afon Po yn Pianura Padana. Mae'r afon dan reolaeth awdurdod arbennig, y Magistrato delle Acque.

Lleoliad Afon Po
Afon Po yn Torino

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato