Alpau Cottaidd
Math | Alpine section |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Southwestern Alps |
Sir | Piemonte, Rhône-Alpes, Provence-Alpes-Côte d'Azur |
Gwlad | Ffrainc Yr Eidal |
Cyfesurynnau | 44.6452°N 7.0917°E |
Hyd | 80 cilometr |
Cadwyn fynydd | Southwestern Alps |
Deunydd | craig fetamorffig |
Mae'r Alpau Cottaidd (Ffrangeg: Alpes Cottiennes; Eidaleg: Alpi Cozie) yn fynyddoedd yn rhan dde-orllewinol yr Alpau, sydd yn ffurfio'r ffin rhwng Hautes-Alpes a Savoie yn Ffrainc a Piedmont yn yr Eidal. Mae Bwlch Maddalena yn eu gwahanu oddi wrth yr Alpau Morol a'r Col du Mont Cenis yn eu gwahanu oddi wrth yr Alpau Graiaidd. Mae twneli ffordd a rheilffordd Fréjus yn gysylltiad pwysig rhwng Lyon a Grenoble yn Ffrainc a Torino yn yr Eidal.
Mae Afon Durance ac Afon Arc yn tarddu o ochr Ffrainc, a'r Dora Riparia ac afonydd eraill sy'n llifo i mewn i Afon Po yn tarddu ar yr ochr Eidalaidd. Roedd yr ardal yn dalaith Rufeinig gyda'r enw Alpes Cottiae. Daw'r enw o enw Cottius, brenin un o lwythau y Liguriaid, oedd yn frenin y diriogaeth dan nawdd Rhufain.
Copaon
[golygu | golygu cod]Copaon uchaf yr Alpau Cottaidd yw:
Copa | Uchder (m/troedfeddi) | |
---|---|---|
Monte Viso | 3841 | 12,609 |
Viso di Vallante | 3672 | 12,048 |
Aiguille de Scolette | 3505 | 11,500 |
Aiguille de Chambeyron | 3412 | 11,155 |
Bric de Chambeyron | 3388 | 11,116 |
Pic de la Font Sancte | 3387 | 11,112 |
Rognosa d'Etache | 3385 | 11,106 |
Dents d'Ambin | 3382 | 11,096 |
Punta Ferrant | 3364 | 11,037 |
Visolotto | 3353 | 11,001 |