Emilia-Romagna
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Romagna, Emilia |
| Prifddinas | Bologna |
| Poblogaeth | 4,459,477 |
| Pennaeth llywodraeth | Michele De Pascale |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Hessen, Ibaraki |
| Nawddsant | Apollinaris |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 22,123.09 km² |
| Uwch y môr | 211 metr |
| Gerllaw | Môr Adria |
| Yn ffinio gyda | Veneto, Lombardia, Piemonte, Liguria, Toscana, Marche |
| Cyfesurynnau | 44.75°N 11°E |
| IT-45 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Emilia-Romagna |
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol Emilia-Romagna |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Emilia-Romagna |
| Pennaeth y Llywodraeth | Michele De Pascale |
![]() | |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.909 |
Rhanbarth yng ngogledd yr Eidal yw Emilia-Romagna. Bologna yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Modena, Parma, Reggio Emilia, Ravenna a Rimini.
Saif Emilia-Romagna rhwng y Môr Adriatig yn y dwyrain, afon Po yn y gogledd a mynyddoedd yr Appenninau yn y de. Ffurfiwyd y rhanbarth trwy uno rhanbarthau hanesyddol Emilia a Romagna. Caiff Emilia ei henw o'r via Æmilia, y ffordd Rufeinig o Rufain i ogledd yr Eidal.
Rhennir y rhanbarth yn naw talaith: Bologna, Ferrara, Forlì-Cesena, Modena, Parma, Piacenza, Ravenna, Reggio Emilia a Rimini. Amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd yw'r elfen bwysicaf yn yr economi, gyda diwydiannau bwyd yn Parma a Bologna. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig hefyd, gyda Ferrari, Ducati, Lamborghini a Maserati yn cael eu cynrychioli yma. Mae mentrau cydweithredol yn arbennig o gyffredin yn Emilia-Romagna, ac mae'r chwith yn gryf yma yn wleidyddol.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 4,342,135.[1]

Rhennir y rhanbarth yn naw talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
- Bologna
- Ferrara
- Forlì-Cesena (Forlì yw'r ganolfan weinyddol)
- Modena
- Parma
- Piacenza
- Ravenna
- Reggio Emilia
- Rimini

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
| |||||||
