Valle d'Aosta
| Math | rhanbarth ymreolaethol gan statud arbennig, Q3622070 |
|---|---|
| Prifddinas | Aosta |
| Poblogaeth | 125,666 |
| Pennaeth llywodraeth | Erik Lavévaz |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg, Eidaleg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Gogledd yr Eidal |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,263.22 ±0.01 km² |
| Uwch y môr | 951 metr |
| Yn ffinio gyda | Valais, Piemonte, Rhône-Alpes, Haute-Savoie, Savoie, Talaith Biella, Talaith Vercelli, Talaith Torino, Auvergne-Rhône-Alpes |
| Cyfesurynnau | 45.72°N 7.37°E |
| Cod post | 11100, 11010–11029 |
| IT-23 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Valle d'Aosta |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Valle d'Aosta |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Valle d'Aosta |
| Pennaeth y Llywodraeth | Erik Lavévaz |
![]() | |
Rhanbarth a thalaith yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Valle d'Aosta (Ffrangeg: Vallée-d'Aoste neu Val-d'Aoste). Aosta yw'r brifddinas.
Saif Valle d'Aosta yn yr Alpau, ac mae'n cynnwys Mont Blanc a'r Matterhorn, y ddau ar y ffin. Mae'n ffinio ar Ffrainc yn y gorllewin, y Swistir yn y gogledd a rhanbarth Piemonte yn y de a'r dwyrain. Valle d'Aosta yw'r lleiaf o rhanbarthau'r Eidal o ran poblogaeth, a'r unig un nad yw wedi ei rannu'n daleithiau. Siaredir Ffrangeg gan gyfran o'r boblogaeth, ac mae'r Ffrangeg yn gyd-iaith swyddogol y rhanbarth gydag Eidaleg. Siaredir tafodiaith o Almaeneg mewn rhai rhannau hefyd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 126,806.[1]

Ers i dalaith Aosta gael ei diddymu ym 1945, nid yw rhanbarth Valle d'Aosta wedi'i rannu'n daleithiau. Darperir swyddogaethau gweinyddol taleithiol gan y llywodraeth ranbarthol. Rhennir y rhanbarth yn 74 cymuned.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 22 Rhagfyr 2020
| |||||||
