Abruzzo
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Prifddinas | L'Aquila |
| Poblogaeth | 1,308,451 |
| Pennaeth llywodraeth | Marco Marsilio |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | Philadelphia |
| Nawddsant | Gabriel o Ein Harglwyddes o'r Gofidion |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 10,831.84 km² |
| Uwch y môr | 563 metr |
| Gerllaw | Môr Adria |
| Yn ffinio gyda | Marche, Lazio, Molise |
| Cyfesurynnau | 42.22°N 13.83°E |
| IT-65 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Abruzzo |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Abruzzo |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Abruzzo |
| Pennaeth y Llywodraeth | Marco Marsilio |
![]() | |
Rhanbarth yn rhan ddwyreiniol canolbarth yr Eidal yw Abruzzo. L'Aquila yw'r brifddinas.
Mae Abruzzo yn ffinio ar ranbarthau Marche yn y gogledd, Lazio yn y gorllewin a Molise yn y de-ddwyrain, tra mae'r Môr Adriatig yn ffin ddwyreiniol. Er ei fod yng nghanolbarth y wlad, ar gyfer pwrpas ystadegau, fe'i hystyrir yn rhan o dde yr Eidal. Rheswm hanesyddol sydd am hyn, oherwydd i'r Abruzzo fod yn rhan o Deyrnas y Ddwy Sicilia.
Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys y Gran Sasso d'Italia, copa uchaf yr Apenninau, 2,914 medr o uchder. Ceir nifer o barciau cenedlaethol a gwarchodfeydd yma, ac mae'r Arth frown, y blaidd a'r chamois i'w cael yma.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,307,309.[1]

Rhennir y rhanbarth yn bedair talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 22 Rhagfyr 2020
| |||||||
