Sardinia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Sardinia

Sardinia (Sardeg: Sardigna [sarˈdinja], Eidaleg: Sardegna [sarˈdeɲɲa]) yw'r ail fwyaf o'r ynysoedd yn y Môr Canoldir, gydag arwynebedd o 24,090 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif ger arfordir gorllewinol yr Eidal, i'r de o Ynys Cors. Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Eidal gyda mesur o hunanlywodraeth.

Tua 1500 CC, galwyd yr ynys yn Hyknusa (Lladin: "Ichnusa") gan y Mycenaeaid, efallai yn golygu ynys (nusa) yr Hyksos, oedd newydd gael eu gyrru o'r Aifft. Cafodd ei henw presennol o enw'r Shardana, un arall o'r bobloedd a ymosododd ar yr Aifft, ond a orchfygwyd gan Ramesses III tua 1180 CC).

Cydnabyddir pobl Sardinia gan lywodraeth yr Eidal fel "popolo", sef pobl ar wahân. Mae'n un o ddau ranbarth o'r Eidal sydd a'r statws yma; y llall yw Veneto. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,655,677. Y brifddinas yw Cagliari. Mae 'Parth Glas' yn ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Cofnodir Sardinia ymhlith yr uchaf (yn enwedig talaith Nuoro ac Ogliastra). Gwelwyd yma ardal o hirhoedledd uchel iawn mewn pentrefi mynyddig lle y mae'r dynion yn cyrraedd eu 100 ar gyfradd uchel iawn.[1]

Mae gan yr ynys draddodiad cerddorol cryf, a cheir yno iaith gynhenid, Sardineg.

Taleithiau Sardinia
Arwydd yn gwahardd ymsmygu, mewn Sardineg ac Eidaleg.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Buettner, Dan (21 April 2009) [2008]. "Contents". The Blue Zones: Lessons for Living Longer From the People Who've Lived the Longest (First Paperback ed.). Washington, D.C.: National Geographic. p. vii. ISBN 978-1-4262-0400-5. OCLC 246886564. Retrieved 15 September 2009.