Campania
| Math | rhanbarthau'r Eidal |
|---|---|
| Prifddinas | Napoli |
| Poblogaeth | 5,786,373 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Vincenzo De Luca |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Nawddsant | Januarius |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 13,670.95 km² |
| Uwch y môr | 322 metr |
| Gerllaw | Môr Tirrenia |
| Yn ffinio gyda | Lazio, Molise, Puglia, Basilicata |
| Cyfesurynnau | 40.9106°N 14.9206°E |
| IT-72 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Llywodraeth Campania |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Campania |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Campania |
| Pennaeth y Llywodraeth | Vincenzo De Luca |
![]() | |
Rhanbarth yn ne yr Eidal yw Campania Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 13,595 km sgwar a phoblogaeth o 5.8 miliwn. Napoli yw'r brifddinas.
Mae'n ffinio ar ranbarth Latium yn y gogledd-orllewin, Abruzzo a Molise yn y gogledd, Apulia yn y gogledd-ddwyrain, Basilicata yn y dwyrain a'r môr yn y gorllewin. Yn y cyfnod Rhufeinig, fe'i gelwid yn Campania felix ("Campania Ddedwydd").
Roedd Campania yn rhan o Magna Graecia, y trefedigaethau Groegaidd yn ne yr Eidal. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth Rhufain. Yn 217 CC daeth byddin Hannibal i Campania, a newidiodd prif ddinas Campania, Capua, ei hochr a'i gefnogi. Yn ddiweddarach, rhoddwyd Capua dan warchae gan fyddin Rufeinig, a bu raid iddi ildio yn 211 CC. Yn yr 11g concrwyd ac ail-unwyd Campania gan y Normaniaid dan Robert Guiscard.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,766,810.[1]

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Atyniadau
[golygu | golygu cod]Ymhlith atyniadau Campania i ymwelwyr mae Ogof y Sibyl yn Cumae, temlau Groegaidd Paestum, adfeilion Rhufeinig Pompeii a Herculaneum, llosgfynydd Vesuvius, Arfordir Amalfi (Costiera Amalfitana), Penrhyn Sorrento (Penisola Sorrentina) ac ynysoedd Capri, Ischia a Procida.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
| |||||||
