Arfordir Amalfi
Gwedd
| Math | arfordir |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Penrhyn Sorrento |
| Sir | Campania |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Gwlff Salerno |
| Cyfesurynnau | 40.63°N 14.6°E |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Darn o arfordir yn ne-orllewin yr Eidal yw Arfordir Amalfi (Eidaleg: Costiera amalfitana). Fe'i lleolir ar ochr ddeheol Penrhyn Sorrento yn rhanbarth Campania, ac mae'n edrych dros Fôr Tirrenia a Gwlff Salerno.
Mae'r Arfordir wedi'i enwi ar ôl tref Amalfi, sydd ei brif ganolfan hanesyddol a gwleidyddol. Mae'n enwog ledled y byd am ei dirwedd Ganoldirol ac amrywiaeth naturiol, ac felly mae'n gyrchfan boblogaidd, sydd wedi bod yn atyniad i dwristiaid aristocrataidd ers y 18g. Rhestrwyd Arfordir Amalfi fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1997.[1]
Mae'r ardal yn cynnwys 13 o cymunedau (comuni)[2] (o'r gorllewin i'r dwyrain):
- Positano
- Praiano
- Furore
- Conca dei Marini
- Amalfi
- Atrani
- Scala, Campania
- Ravello
- Minori, Campania
- Tramonti
- Maiori
- Cetara
- Vietri sul Mare

Oriel
[golygu | golygu cod]-
Rhan orllewinol yr arfordir yn edrych dros Positano
-
Amalfi
-
Atrani
-
Ravello
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Costiera Amalfitana". UNESCO World Heritage Centre. Cyrchwyd 14 Medi 2015.
- ↑ "Amalfi People and Culture". Authentic Italy (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Awst 2014. Cyrchwyd 14 Medi 2015.
