Ischia

Oddi ar Wicipedia
Ischia
Mathvolcanic island Edit this on Wikidata
PrifddinasIschia Edit this on Wikidata
Poblogaeth62,027 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Fflegraeaidd Edit this on Wikidata
SirDinas Fetropolitan Napoli Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd46.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr789 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Tirrenia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.7311°N 13.8956°E Edit this on Wikidata
Hyd9.9 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys folcanig Eidalaidd ym Môr Tirrenia sy'n gorwedd ym mhen gogleddol Bae Napoli, tua 19 milltir (30 km) o ddinas Napoli yw Ischia. Mae'n mesur tua 6 milltir (10 km) o'r dwyrain i'r gorllewin a 4 milltir (7 km) o'r gogledd i'r de. Mae bron yn hollol fynyddig; ei gopa uchaf yw Mynydd Epomeo (2,585 troedfedd, 788 m). Mae'r ynys yn ddwys ei phoblogaeth, gyda 62,000 o drigolion (mwy na 1,300 o drigolion y km2).

Mae'r ynys wedi bod yn enwog am ei ffynhonnau poeth ers y cynoesoedd. Mae'n un o'r sbâu mwyaf yn Ewrop.

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato