Bae Napoli

Oddi ar Wicipedia
Bae Napoli
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMôr Tirrenia Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd870 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.7353°N 14.2753°E Edit this on Wikidata
Map

Bae tua 9 milltir (15 km) o led ar arfordir de-orllewin yr Eidal yw Bae Napoli neu Gwlff Napoli (Eidaleg: Golfo di Napoli). Fe'i lleolir yn rhanbarth Campania rhwng Gwlff Gaeta i'r gogledd a Gwlff Salerno (sy'n cynnwys Arfordir Amalfi) i'r de. I'r gorllewin mae'n agor ar Fôr Tirrenia, rhan o Fôr Canoldir. Mae dinas Napoli yn edrych drosti o'r gogledd. Saif Mynydd Vesuvius i'r dwyrain, a Penrhyn Sorrento i'r de.

Lleolir ynysoedd Capri, Ischia a Procida ym Mae Napoli.[1] Mae'r ardal yn gyrchfan i dwristiaid. Mae'r atyniadau'n cynnwyd adfeilion Rhufeinig Pompeii a Herculaneum wrth droed Mynydd Vesuvius, ar hyd arfordir y gogledd.[2]

Bae Napoli (enwau Eidaleg)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gulf of Naples islands Archifwyd 13 July 2011[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback. (PDF).
  2. De Carolis, Ernesto; Patricelli, Giovanni (2003). Vesuvius, A.D. 79: the destruction of Pompeii and Herculaneum (yn Saesneg). L'erma Di Bretschneider. ISBN 978-88-8265-199-2.