Arth frown

Oddi ar Wicipedia
Arth frown
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Ursidae
Genws: Ursus
Rhywogaeth: Ursus arctos
Enw deuenwol
Ursus arctos
Linnaeus, 1758

Arth sy'n byw yn Ewrop, Asia a Gogledd America yw'r Arth frown (Ursus arctos). Yng Ngogledd America, ceir tair is-rwyogaeth, Arth Kodiak, yr Arth fraith ac Arth Mecsico. Yn Ewrop, ceir yr Arth frown Ewropeaidd. Mae'n hollysydd, yn bwyta aeron, cnau, gwreiddiau, mêl, pysgod ac anifeiliaid bach.

Ar un adeg, roedd yr arth yma yn anifail cyffredin dros ran helaeth o Ewrop, yn cynnwys Cymru, ond erbyn hyn dim ond gweddillion o'r boblogaeth sydd ar ôl yng ngwledydd Llychlyn, yn Sbaen ac yn nwyrain Ewrop, yn enwedig Rwmania.

Is-rywogaethau[golygu | golygu cod]