Cneuen

Oddi ar Wicipedia
Cnau cyll.

Cneuen yw'r term a ddefnyddir am ffrwyth neu hedyn sych rhai planhigion. Fel term botanegol, fe'i defnyddir am y ffrwythau unhadog anymagorol â masgl neu blisgyn caled a gynhyrchir gan y Fagales fel mes (derw), cnau ffawydd, cnau oestrwydd, ayb. Mewn coginio, gall y term gynnwys cynnyrch planhigion eraill hefyd, sef rhai drwpiau neu hadau drwpiau yn bennaf. Mae cnau yn fwyd pwysig i bobl a bywyd gwyllt.

Rhai o'r cnau mwyaf adnabyddus yw cnau cyll, castan a chnau Ffrengig ymhlith y Fagales, ac eraill megis cnau almon a chnau mwnci.

Chwiliwch am cneuen
yn Wiciadur.