Philadelphia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Philadelphia
Philadelphia cityscape BW 20150328.jpg
Seal of Philadelphia, Pennsylvania.svg
Mathdinas Pennsylvania, dinas â miliynau o drigolion, tref ddinesig, dinas Pennsylvania Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,603,797 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1682 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJim Kenney Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirPhiladelphia County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd369.609252 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr12 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Delaware Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUpper Darby Township, Pennsylvania, Millbourne, Pennsylvania, Yeadon, Pennsylvania, Darby, Colwyn, Pennsylvania, Darby Township, Pennsylvania, Folcroft, Pennsylvania, Tinicum Township, West Deptford Township, New Jersey, National Park, New Jersey, Westville, New Jersey, Gloucester City, New Jersey, Camden, New Jersey, Pennsauken Township, New Jersey, Palmyra, New Jersey, Riverton, New Jersey, Cinnaminson Township, New Jersey, Delran Township, New Jersey, Delanco Township, New Jersey, Bensalem Township, Pennsylvania, Lower Southampton Township, Pennsylvania, Lower Moreland Township, Pennsylvania, Abington Township, Rockledge, Pennsylvania, Cheltenham Township, Pennsylvania, Springfield Township, Whitemarsh Township, Pennsylvania, Lower Merion Township, Pennsylvania, Haverford Township, Pennsylvania Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.9528°N 75.1636°W Edit this on Wikidata
Cod post19019–19255, 19171, 19172, 19019, 19023, 19026, 19028, 19031, 19033, 19036, 19039, 19042, 19046, 19050, 19054, 19056, 19058, 19061, 19065, 19068, 19070, 19072, 19077, 19079, 19081, 19086, 19088, 19091, 19093, 19096, 19097, 19099, 19103, 19104, 19108, 19112, 19115, 19119, 19120, 19123, 19126, 19117, 19133, 19135, 19136, 19137, 19140, 19144, 19147, 19151, 19154, 19159, 19163, 19166, 19168, 19173, 19174, 19176, 19179, 19182, 19186, 19189, 19193, 19196, 19198, 19201, 19204, 19206, 19209, 19212, 19215, 19217, 19219, 19222, 19226, 19228, 19232, 19236, 19240, 19243, 19245, 19247, 19250, 19254, 19255 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Philadelphia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJim Kenney Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganWilliam Penn Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Philadelphia (gwahaniaethu).

Dinas fwyaf Pennsylvania a'r chweched mwyaf o ran poblogaeth yn Unol Daleithiau America yw Philadelphia. Mae'n gorwedd yn Swydd Philadelphia, ac yn gwasanaethu fel sedd llywodraeth y swydd honno. Ei enw ar lafar yw "Dinas Brawdgarwch" (Saesneg: "the City of Brotherly Love") (Groeg: Φιλαδέλφεια, philadelphia, "brawdgarwch," o'r gair philos "cariad" ac adelphos "brawd").

Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o 1.4 million. Mae Philadelphia yn un o ganolfannau masnach, addysg, a diwylliant pwysicaf yr Unol Daleithiau. Yn 2006 amcangyfrifwyd fod gan ardal ddinesig Philadelphia boblogaeth o 5.8 miliwn, y bumed fwyaf yn UDA.

Yn y 18g, roedd Philadelphia y ddinas fwyaf poblog yn y wlad[1]. Mae'n debyg iddi fod yr ail fwyaf poblog, ar ôl Llundain, yn yr Ymerodraeth Brydeinig. Y pryd hynny roedd yn bwysicach na dinasoedd Boston a Dinas Efrog Newydd yn nhermau dylanwad gwleidyddol a chymdeithasol, gyda Benjamin Franklin yn chwarae rhan bwysig yn ei goruchafiaeth. Philadelphia oedd canolbwynt cymdeithasol a daearyddol yr 13 gwladfa Americanaidd gwreiddol. Yno yn anad unlle arall y ganwyd y Chwyldro Americanaidd a arweiniodd at greu'r Unol Daleithiau.

Y ddinas o orsaf reilffordd 30 Stryd gyda'r nos
Canol Philadelphia
Philadelphia03LB.jpg

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y bobl gyntaf i gyrradd o Ewrop o Swede a'r Iseldiroedd]]yn ystod yr 17g. Cyrhaeddodd William Penn ar 24 Hydref 1682, ac arwyddodd gytundeb efo'r llwyth brodorol. Sefydlwyd addoldy i'r Crynwyr ym 1698. Crewyd y ddinas ar 2 Chwefror 1854 gan uno nifer o anneddiadau bychain.[2]

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerflyniau ynghanol y ddinas

Mae gan Philadelphia nifer o safleoedd hanesyddol sy'n ymwneud â sefydlu'r Unol Daleithiau. Parc Hanesyddol Annibynniaeth Cenedlaethol sy'n ganolbwynt i'r mannau hanesyddol hyn. Y Neuadd Annibyniaeth (yn Saesneg "Independence Hall"), lle arwyddwyd y Datganiad o Annibynniaeth a'r Gloch Rhyddid (yn Saesneg "Liberty Bell") yw atyniadau enwocaf y ddinas. Mae safleoedd hanesyddol eraill yn cynnwys cartrefi Edgar Allan Poe, Betsy Ross, a Thaddeus Kosciuszko, adeiladau'r llywodraeth gwreiddiol, megis Y Banc Cyntaf ac Ail Fanc yr Unol Daleithiau, Ffort Mifflin, a'r Gloria Dei (Old Swedes') Safle Hanesyddol yr Eglwys Genedlaethol.

Yr amgueddfa Arforol

Mae prif amgueddfeydd gwyddonol Philadelphia'n cynnwys y Franklin Institute, sy'n cynnwys Cofeb Cenedlaethol Benjamin Franklin, yr Academi o Wyddorau Naturiol ac Amgueddfa Archeoleg ac Athropoleg Prifysgol Pennsylvania. Ymysg yr amgueddfeydd hanesyddol, ceir y Ganolfan Cyfansoddiad Cenedlaethol, Amgueddfa Atwater Kent o Hanes Philadelphia, Cymdeithas Hanesyddol Philadelphia, yr Amgueddfa Cenedlaethol am Hanes Iddewig, Amgueddfa Arforol, Amgueddfa Americaniaid Affricanaidd yn Philadelphia, Y Gyfrinfa Fawr Seiri Rhyddion a Dethol Talaith Pennsylvania ac Amgueddfa'r Seiri Rhyddion. Yn Philadelphia y ceir sŵ ac ysbyty cyntaf yr Unol Daleithiau.


Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethir y ddinas a maestrefi gan SEPTA, ( Southeastern Pennsylvania Transportation Authority) sydd yn cynnig bysiau, trenau a thramiau ledled yr ardal ac yn estyn heibio ffiniau Pennsylvania i Jersey Newydd a Delaware.[3] Mae Gorsaf reilffordd 30fed Stryd yn un brysur ar [[Coridor y Gogledd Dwyrain Amtrack, defnyddir gan drenau Amtrak, SEPTA, a New Jersey Transit.[4][5][6]

Mae gan y ddinas faes awyr rhyngwladol. Côd y maes awyr yw PHL.[7]

Gorsaf reilffordd Maestrefol
Arwydd elegtronig, gorsaf reilffordd 30fed Stryd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan ushistory.org
  2. Gwefan ushistory.org
  3. Gwefan SEPTA
  4. Gwefan SEPTA
  5. Gwefan Amtrak
  6. "Gwefan NJ Transit". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-18. Cyrchwyd 2016-11-07.
  7. Gwefan y maes awyr rhyngwladol

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]