Douala

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Douala
Douala.JPG
Math dinas â phorthladd, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Poblogaeth 2,446,945 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Sir Wouri Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Camerŵn Camerŵn
Arwynebedd 210 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 13 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Wouri Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 4.05°N 9.7°E Edit this on Wikidata

Douala yw'r ddinas fwyaf yn Camerŵn a phrifddinas Talaith Arfordirol Camerŵn. Mae'n gartref i borthladd mwyaf y wlad a'i phrif faes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Douala, ac yn brifddinas masnach Camerŵn yn ogystal. Mewn canlyniad, mae'n delio â'r rhan fwyaf o allforion y wlad, e.e. olew, cocoa a choffi, yn ogystal â rhywfaint o fasnachu o Tsiad. Yno hefyd y cynhelir Marchnad Eko, y bwysicaf yn y wlad.

Saif y ddinas ar lannau Afon Wouri, gyda'r ddwy lan yn cael eu cysylltu gan Bont Bonaberi. Yn ôl cyfrifiad yn 1991 roedd tua 1.6 miliwn yn byw yn Douala ond erbyn hyn amcangyfrifir dros 2 filiwn o drigolion yn y ddinas. Mae'r hinsawdd yn boeth a chlos.

Cerflun La nouvelle Liberté, Douala

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltir Douala gan rheilffordd â Yaoundé, Ngaoundéré, Kumba a Nkongsamba.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldref[golygu | golygu cod y dudalen]