Sfax

Oddi ar Wicipedia
Sfax
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth272,801, 265,131 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCentral Coastal Tunisia Edit this on Wikidata
SirSfax Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd56 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr24 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34.74°N 10.76°E Edit this on Wikidata
Cod post3000 Edit this on Wikidata
Map
La Place de la République yng nghanol y ddinas

Mae Sfax yn ddinas yn nwyrain canolbarth Tiwnisia, prifddinas y dalaith o'r un enw, 266 km i'r de o Diwnis. Ei phoblogaeth yw 275,000 (2001).

Lleolir Sfax ar yr arfordir. Mae hi'n ddinas hanesyddol gyda'r medina gorau yn Nhiwnisia, ond erbyn heddiw mae hi'n ganolfan diwydiant a masnach. Mae llongau fferi yn croesi o Sfax i Ynysoedd Kerkennah.

Hanes[golygu | golygu cod]

Er bod ardal Sfax yn drigfan i'r Pheniciaid a'r Rhufeiniaid nid oedd yn lle pwysig tan i'r goresgynwyr Arabiaid sefydlu tref yno yn y 8g, efallai ar safle'r dref Rufeinig fechan Taparura, sydd wedi diflannu bellach.

Codwyd muriau amddiffynnol y ddinas gan yr Aghlabiaid yn y 9g. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol Sfax oedd y ddinas pwysicaf yn ne Tiwnisia. Rheolai'r arfordir rhwng Sfax a Tripoli yn Libia a llwyddodd i aros yn lled-annibynnol ar y brifddinas Tiwnis tan ddechrau'r 17g.

Y Ffrancod sy'n gyfrifol am ffurf y ddinas heddiw. Codasant ville nouvelle yn y dull Ewropeaidd i'r de o'r medina trwy lenwir corsdir a datblygasant borth i ddelio allforio'r ffosfad o fwyngloddiau Gafsa.

Atyniadau[golygu | golygu cod]

Lleolir yr atyniadau hanesyddol i gyd bron yn y medina. Mae amgueddfa archaeolegol y dref yn gartref i ddarganfyddiadau o drefi Rhufeinig yr ardal ac yn cynnwys mosaic enwog o'r bardd Rhufeinig Ennius a'r Naw Awen.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Ganed dau o arwyr mudiad annibyniaeth Tiwnisia, Hedi Chaker a Farhat Hached yn Sfax.