Oran
| Math | commune of Algeria, dinas, dinas fawr, large city |
|---|---|
| Poblogaeth | 803,329 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Berber Algeriaidd Safonol |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oran District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 64 km² |
| Uwch y môr | 101 metr |
| Gerllaw | Gulf of Oran |
| Yn ffinio gyda | Mers El Kebir, Bir El Djir, Sidi Chami, Es Senia, Misserghin |
| Cyfesurynnau | 35.696944°N 0.633056°W |
| Cod post | 31000 |
![]() | |
- Erthygl am y ddinas yn Algeria yw hon. Gweler hefyd Oran (gwahaniaethu).
Dinas ar lan y Môr Canoldir yng ngogledd-orllewin Algeria yw Oran (Arabeg: وهران, ynganer Wahran; weithiau Ouahran, Sbaeneg: Orán). Daw'r enw "Oran" o enw Twrceg sy'n golygu "caer hardd". Sefydlwyd y ddinas yn 903 gan fasnachwyr o Al-Andalus (Andalucía yn Sbaen heddiw). Dan Ymerodraeth yr Otomaniaid Oran oedd y ddinas fwyaf gorllewinol yn yr ymerodraeth honno. Yn y cyfnod pan reolwyd Algeria gan Ffrainc, o ganol y 19g hyd y 1960au, bu Oran yn préfecture département o'r un enw. Heddiw mae'n brifddinas weinyddol wilaya (talaith) Oran. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 1 miliwn o bobl, ond os cynhwysir yr ardaloedd dinesig ceir poblogaeth o tua 2 miliwn, sy'n ei gwneud y ddinas ail fwyaf yn Algeria. Mae Oran yn borthladd o bwys, ac ers y 1960au mae wedi bod yn ganolfan fasnachol, diwydiannol ac addysgol i orllewin Algeria. Efallai mai cerddoriaeth Rai yw cynnyrch diwylliannol enwocaf Oran.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan adran dwristiaeth Oran Archifwyd 2008-07-04 yn y Peiriant Wayback
