Oujda
| Math | dinas, cymuned drefol Moroco, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 506,224 |
| Pennaeth llywodraeth | Mohamed Azawi |
| Cylchfa amser | UTC+00:00, UTC+01:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oujda-Angad Prefecture |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 96.4 km² |
| Uwch y môr | 470 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 34.6867°N 1.9114°W |
| Cod post | 60000 |
| MA-OUJ | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mohamed Azawi |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Moroco yw Oujda (Arabeg: وجدة). Lleolir y ddinas tua 15 km i'r gorllewin o'r ffin rhwng Moroco ac Algeria a rhyw 60 km i'r de o lan y Môr Canoldir. Poblogaeth: tua 500,000. Mae'n brifddinas rhanbarth L'Oriental.
Mae'n ddinas ddiwydiannol sy'n gartref i Brifysgol Mohammed I. Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Angads. Mae rheilffordd yn cysylltu Oujda â Fes a Casablanca i'r gorllewin; roedd hyn yn rhan o lein ar draws y Maghreb yn cysylltu Moroco, Algeria a Tiwnisia, ond oherwydd yr anghydfod a helyntion yn Algeria does dim gwasanaeth ar draws y ffin heddiw.
Ceir peth dystiolaeth o bresenoldeb y Rhufeiniaid yma pan fu'n rhan o dalaith Mauretania Tingitana. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 994 gan Ziri ibn Atiyya, brenin y Zenata Berber. Ailadeiladwyd y ddinas yn y 13g gan y swltan Abou Youssef. Cafodd ei meddiannu gan Ffrainc yn 1844 ac eto yn 1859. Dan reolaeth Ffrainc, cafodd Oujda ei defnyddio gan y Ffrancod fel gwersyll filwrol i reoli dwyrain Moroco.
Ganed Abdelaziz Bouteflika, arlywydd Algeria, yn Oujda.
Gefeilldref
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Oujda ar-lein Archifwyd 2015-04-05 yn y Peiriant Wayback
