Abdelaziz Bouteflika

Oddi ar Wicipedia
Abdelaziz Bouteflika
Yr Arlywydd Abdelaziz Bouteflika ym Mai 2021.
Ganwyd2 Mawrth 1937 Edit this on Wikidata
Oujda Edit this on Wikidata
Bu farw17 Medi 2021 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Zéralda Edit this on Wikidata
Man preswylZéralda, El Biar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAlgeria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Algiers Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, chwyldroadwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Algeria, cadeirydd y Sefydliad Undod Affricanaidd, President of the United Nations General Assembly, Minister of Foreign Affairs of Algeria, Permanent Representative of Algeria to the United Nations Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNational Liberation Front Edit this on Wikidata
PriodAmal Triki Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd Teilyngdod Sifil, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd José Martí, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Grand Cross with Chain of the Order of Merit of the Republic of Hungary (civil), National Order of Merit, Order of the Star of Palestine Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Algeria oedd Abdelaziz Bouteflika (2 Mawrth 193717 Medi 2021) a fu'n Arlywydd Algeria o 1999 i 2019.

Ganed ef yn Oujda yng nghyfnod y brotectoriaeth Ffrengig ym Moroco, yn fab i Ahmed Bouteflika a Mansouria Ghezlaoui o ardal Tlemcen yng ngogledd-orllewin Algeria Ffrengig. Yn 19 oed, yn ystod Rhyfel Algeria, ymaelododd Abdelaziz Bouteflika â'r Armée de liberation nationale (ALN), byddin y Front de libération nationale (FLN), i frwydro dros annibyniaeth oddi ar Ffrainc. Cafodd ei benodi'n ysgrifennydd gweinyddol i Houari Boumediene, un o arweinwyr yr FLN.[1]

Yn sgil annibyniaeth Algeria ym 1962, cefnogwyd arlywydd cyntaf y wlad, Ahmed Ben Bella, gan Boumediene a'i gylch, gan gynnwys Bouteflika. Ym 1965, cafodd Ben Bella ei ddisodli yn yr arlywyddiaeth gan Boumediene. Gwasanaethodd Bouteflika yn Weinidog Tramor Algeria o 1963 i 1978, ac yn Llywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o Fedi 1974 i Fedi 1975. Yn sgil marwolaeth Boumediene, cafodd ei yrru'n alltud gan yr arlywydd newydd, Chadli Bendjedid, am saith mlynedd.

Dychwelodd Bouteflika i fyd gwleidyddiaeth yn sgil ymddiswyddo'r Arlywydd Liamine Zéroual ym 1999. Cafodd ei ystyried gan rai fel arweinydd a allai ailgymodi'r wlad wedi rhyfel cartref hynod o waedlyd ers 1991. Wedi i Bouteflika ennill yr etholiad arlywyddol ym 1999 gyda 74% o'r bleidlais, galwodd refferendwm i gynnig amnest i'r gwrthryfelwyr er mwyn sicrhau "Cytgord Sifil" a rhoi terfyn ar y rhyfel. Pleidleisiodd 98% o etholwyr o blaid y ddeddf amnest, a ddaeth y rhyfel cartref i ben o'r diwedd erbyn 2002.

Ail-etholwyd Bouteflika yn arlywydd yn 2004, 2009, a 2014. Ysgogwyd protestiadau yn ei erbyn yn 2019 wedi iddo gyhoeddi yr oedd am ymgyrchu am bumed dymor yn y swydd. Collodd gefnogaeth y fyddin, a phenderfynodd i ymddiswyddo yn Ebrill 2019. Bu farw yn Zéralda, Algeria, yn 84 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Trevor Mostyn, "Abdelaziz Bouteflika obituary", The Guardian (20 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Medi 2021.
  2. (Saesneg) Abdelaziz Bouteflika. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2021.