Mauretania Tingitana
| Math | Talaith Rufeinig |
|---|---|
| Prifddinas | Tanger |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | diocese of Hispania |
| Gwlad | Moroco, Rhufain hynafol, yr Ymerodraeth Rufeinig |
| Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Roedd Mauretania Tingitana yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig yn rhan orllewinol Gogledd Affrica. Roedd yn cynnwys y diriogaeth sy'n awr yn rhan ogleddol Moroco, gan gynnwys hefyd Ceuta a Melilla.[1]

Daeth y diriogaeth yn rhan o'r ymerodraeth pan orchmynodd yr ymerawdwr Caligula lofruddio'r brenin Ptolomeus yn y flwyddyn 40 OC. Rhannodd yr ymerawdwr Claudius dalaith Mauretania yn ddwy ran, Mauretania Caesariensis a Mauretania Tingitana, yn y flwyddyn 42, gan gymeryd Afon Muluya fel ffin rhyngddynt.
Prifddinas Mauretania Tingitana oedd Tingis, (Tangier heddiw), ac roedd dwy ddinas bwysig arall, sef Volubilis (ger Meknès) a Rusadir (Melilla heddiw).
Tua 285, penderfynodd yr ymerawdwr Diocletian roi'r gorau i feddiannu'r rhan o'r diriogaeth oedd i'r de o Lixus. Concrwyd yr ardal gan y Fandaliaid yn 429. Yn 533 llwyddodd y cadfridog Belisarius i adennill y diriogaeth i'r ymerawdwr Justinian.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]| Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
|---|---|
| Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia | |