Neidio i'r cynnwys

Alpes Maritimae

Oddi ar Wicipedia
Alpes Maritimae
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasCemenelum, Eburodunum Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 63 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.57236°N 6.49358°E Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganNero Edit this on Wikidata

Roedd Alpes Maritimae yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Hi oedd y mwyaf deheuol o'r tair talaith fechan yn ardal yr Alpau rhwng Gâl a'r Eidal. Yn y gorllewin roedd yn ffinio â Gallia Narbonensis, gyda talaith Italia i'r dwyrain ac Alpes Cottiae i'r gogledd. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd Cemenelum, heddiw Cimiez sy'n rhan o ddinas Nice, Ffrainc.

Talaith Alpes Maritimae yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau rhwng Gâl a'r Eidal. Hyd y flwyddyn 15 CC yr oedd ym meddiant llwythau y Ligures, ond y flwyddyn honno cychwynnodd yr ymerawdwr Augustus ymgyrch a ddaeth a'r diriogaeth i feddiant Rhufain. Y flwyddyn wedyn, 14 CC, crëwyd y dalaith Rufeinig.

Yn y flwyddyn 297, ymestynwyd y dalaith i'r gogledd a symudwyd prifddinas y dalaith i Civitas Ebrodunensium, (Embrun heddiw). Roedd dinasoedd eraill y dalaith yn cynnwys Nicaea (Nice) a Portus Herculis Monaeci (Monaco).