Creta

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Creta

Creta (Groeg Κρήτη Kríti) yw'r fwyaf o ynysoedd Gwlad Groeg; 3220 milltir sgwar. Saif yr ynys tua 160 km i'r de o dir mawr Groeg. Roedd y boblogaeth yn 650,000 yn 2005; Heraklion yw'r brifddinas.

Creta oedd safle'r gwareiddiad hynaf yn Ewrop, y gwareiddiad Minoaidd, o tua 2600 CC. hyd 1400 CC.. Mae llawr o hanesion am gyfnod cynnar Creta wedi eu trosglwyddo trwy fytholeg Groeg, er enghraifft y chwedlau am y Brenin Minos, Theseus a'r Minotaur; a'r stori am Daedalus ac Icarus.

Concrwyd Creta gan yr Ymerodraeth Rufeinig yn 69 CC., a daeth dinas Gortyn yn brifddinas talaith Rufeinig oedd weithiau'n cynnwys Cyrenaica yn ogystal a Creta. Yn ddiweddarach cipiwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn 824. Adennillwyd Creta i'r Ymerodraeth Fysantaidd gan Nicephorus Phocas yn 960. Yn 1204 meddiannwyd yr ynys gan Fenis yn stod y Bedwaredd Groesgad, a bu yn eu meddiant hwy hyd nes daeth yn rhan o'r Ymerodraeth Ottoman yn 1669.

Ynys fynyddig yw Creta. Y copa uchaf yw Psiloritis neu Fynydd Ida, 2,456 m (8,057 troedfedd) o uchder.

Enwogion[golygu]