Ewro

Oddi ar Wicipedia
Ewro
Enghraifft o'r canlynolarian cyfred, arian degol Edit this on Wikidata
Mathspecial drawing rights Edit this on Wikidata
Dyddiad2002 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Ionawr 2002 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddAustrian schilling, Belgian franc, Cypriot pound, Dutch guilder, Estonian kroon, Finnish markka, French franc, Deutsche Mark, Greek drachma, y bunt Wyddelig, lira'r Eidal, Latvian lats, Lithuanian litas, Luxembourg franc, Maltese lira, Monegasque franc, Portuguese escudo, Sammarinese lira, Slovak koruna, Tolar, peseta, Vatican lira, European Currency Unit, kuna Croatia Edit this on Wikidata
GwladwriaethAwstria, Gwlad Belg, Cyprus, Yr Iseldiroedd, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Groeg, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Monaco, Portiwgal, San Marino, Slofacia, Slofenia, Sbaen, y Fatican, Andorra, Cosofo, Croatia, Montenegro Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Arian swyddogol mewn 20 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (a rhai gwledydd eraill) yw'r ewro (€ neu EUR). Mae Banc Canolog Ewrop yn Frankfurt, Yr Almaen, yn rheoli'r ewro (gweler isod a hefyd Ardal Ewro).

Mae'r ewro yn arian swyddogol ers 1999, ond am dair blynedd doedd hi ond yn bosib gwneud taliadau heb arian (er enghraifft trosglwyddiadau banc) mewn ewros. Cyflwynwyd darnau arian a phapurau ewro yn lle arian cenedlaethol y gwledydd yn ardaloedd yr ewro (yr Ewro-floc) ar 1 Ionawr, 2002. Rhennir un ewro yn gan (100) ceiniog neu sent.

Y cyfnod trawsnewidiol[golygu | golygu cod]

Mae Cytundeb Maastricht yn cadarnháu cyflwyniad yr ewro ac yn gosod amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn i'r gwledydd eraill gyflwyno'r ewro. Ar 13 Rhagfyr 1996 cafodd y Cytundeb Sefydlogrwydd a Thyfiant ei arwyddo gan weinidogion cyllid gwledydd yr UE. Ar 31 Rhagfyr 1998 cytunwyd ar gyfradd cyfnewid pob arian cenedlaethol.

Ers 1 Ionawr 1999 gellir trosglwyddo arian a gwneud pob math o daliadau mewn ewros (yng Ngwlad Groeg ers 1 Ionawr 2001). Roedd hi'n bosib cael cyfrif banc mewn ewros o 1999 ymlaen hefyd, ond doedd hynny ddim yn orfodol. Beth bynnag, ni thalwyd trethi awdurdodau cyhoeddus a rhan-ddaliadau y farchnad stoc ond mewn ewros.

Cyflwynwyd y ceiniogau a phapurau ewro ar 1 Ionawr 2002 ac yn ystod y cyfnod hwnnw (hyd at Chwefror 2002 ym mwyafrif y gwledydd) roedd hi'n bosib defnyddio'r arian sengl a'r arian cenedlaethol ochr yn ochr. Heddiw, nid yw'r hen arian cenedlaethol yn arian cyfnewid yng ngwledydd yr ardal ewro. Sut bynnag, gellir cyfnewid darnau a phapurau arian cenedlaethol mewn banc mewn rhai gwledydd, ond mae'r rheolau am hynny yn amrywio o wlad i'w gilydd.

Ardal yr ewro[golygu | golygu cod]

Ardal yr ewro (2015)

Mae'r ewro yn arian swyddogol yn y gwledydd a ganlyn (i daliadau dim arian/darnau a phapur ewro):

Mae gan nifer o wledydd undeb ariannol gyda gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ariannol Ewropeaidd ac felly mae'r ewro yn arian swyddogol yn y rheini nawr hefyd:

Mae nifer o wledydd sy'n bwriadu defnyddio'r ewro heb benderfynu ymuno â'r Undeb Ewropeaidd:

  • Mae Andorra yn bwriadu cyflwyno ei darnau ewro ei hun, ond ni chafwyd caniatâd gan yr Undeb Ewropeaidd hyd yn hyn.
  • Kosofo
  • Montenegro

Beth bynnag mae nifer o aelod-wladwriaethau'r UE wedi penderfynu peidio cyflwyno'r ewro ac yn cadw eu harian eu hunain:

Mae rhaid i'r aelod-wladwriaethau sydd wedi ymuno â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai, 2004 gyflawni nifer o amodau cyn cael cyflwyno'r ewro. Er enghraifft mae'n rhaid fod yn aelod o'r Undeb Ariannol ac yn cael cyfradd cyfnewid cyson rhwng yr ewro a'u harian cenedlaethol am ddwy flynedd. O ganlyniad mae'n debyg na fydd y gwledydd hyn yn defnyddio'r ewro am rai blynyddoedd. Y gwledydd sydd newydd ymuno â'r UE:

Canlyniadau economaidd[golygu | golygu cod]

Disgwylir bydd yr ewro yn cryfhau'r fasnach rhwng yr ardaloedd ewro a bod gwahaniaeth rhwng prisiau pob gwlad yn lleihau achos ei bod hi'n bosib gwerthu cynhyrchion ledled Ewrop ar brisiau tryloyw. Disgwylir hefyd bydd hynny'n cryfhau cystadleuaeth, yn lleihau chwyddiant ac yn cynyddu safon byw trigolion yr UE. Fodd bynnag, roedd nifer o arbenigwyr yn bryderus am gyflwyno arian sengl mewn ardal mor eang ac amrywiol ac yn rhybuddio bydd y polisi ariannol yn anodd i'w wneud.

Byddai pethau yn newid yn ddramatig pe bai pris olew mewn ewros. Mae ardal yr ewro yn mewnforio mwy o olew na'r Unol Daleithiau ac felly mae mwy o ewros nag o ddoleri yn llifo i wledydd OPEC er fod prisiau olew mewn doleri fel arfer. Mae gwledydd OPEC yn ystyried cyflwyno pris olew mewn ewros.

Cyfraddau cyfnewid[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd cyfraddau cyfnewid yr arian cenedlaethol mewn perthynas â'r ewro yn ngwledydd Ardal yr Ewro ar 31 Rhagfyr 1998 ar sylfaen cyfradd cyfnewid yr ECU. Cyflwynwyd yr ewro yn ôl y cyfraddau canlynol:

Cadarnhawyd cyfraddau cyfnewid yr arian cenedlaethol, ar gyfer y cyflwyniad ddiweddarach yr ewro:

Sefydlwyd cyfradd ar gyfer drachma Groeg ar 19 Mehefin 2000 fel 340.750 drachma i'r ewro. Cyflwynwyd yr ewro yng Nglwad Groeg ar 1 Ionawr 2001. Ymunodd Slofenia ar 1 Ionawr 2007 gyda chyfradd o 239.640 tolar i'r ewro. Bwriedid i Lithwania ymuno â'r ewro ar yr un dyddiad, ond gorfodwyd gohirio cyflwyno'r ewro tan 2008 neu 2009 gan i gyfradd chwyddiant Lithwania aros yn rhy uchel. Ymunodd Slofacia ar 1 Ionawr 2009 gyda chyfradd o 30.1260 koruna i'r ewro. Ymunodd Cyprus, Estonia a Malta ymuno â'r ewro yn 2010.

Symbol[golygu | golygu cod]

Cynlluniwyd symbol yr gan Arthur Eisenmenger. Mae'n E fawr a chron gyda dwy linell gyfochrog yn y canol. Mae'n debyg i'r llythyren Roeg 'epsilon' (ε) a llythyren gyntaf y gair 'Ewrop'. Mae'r ddwy linell ganolog yn cynrycholi sefydlogrwydd yr arian a'r economi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am ewro
yn Wiciadur.