Cytundeb Maastricht
| Enghraifft o: | Cytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd |
|---|---|
| Dyddiad | 7 Chwefror 1992 |
| Iaith | Daneg, Almaeneg, Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Eidaleg, Iseldireg, Portiwgaleg |
| Lleoliad | Maastricht |
| Prif bwnc | Three pillars of the European Union |
| Gwladwriaeth | Yr Iseldiroedd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0576x |
Arwyddwyd Cytundeb Maastricht (ei henw iawn yw Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd) ym Maastricht gan aelod-wladwriaethau y Cymuned Ewropeaidd ym 1992 i greu yr Undeb Ewropeaidd ar ôl trafodaethau ar gyfer undeb ariannol ac undeb gwleidyddiol.[1]
O ganlyniad i'r cytundeb cyflwynwyd arian sengl yr UE, yr Ewro a strwythur tair colofn yr Undeb:
- Colofn y gymuned
- Colofn polisi tramor a diogelwch cyffredin (colofn CFSP) a
- Colofn cyfiawnder a materion mewnol (colofn JHA).
Sylfaen y golofn CFSP yw cydweithrediad gwleidyddiol Ewropeaidd (EPC). Colofn JHA sy'n golygu cydweithrediad ar gyfer atal tor-cyfraith, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder sifil, noddfa a mewnfudiad.
Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn canolbwyntio ar faterion economaidd a masnachol. Roedd y Comisiwn Ewropeaidd a'r Llys Cyfiawnder Ewrop yn annibynnol o lywodraethau'r aelod-wladwriaethau ac yn nerthol iawn. Etholwyd Senedd Ewrop gan drigolion y Gymuned Ewropeaidd. Roedd llywodraethau'r aelod-gwladwriaethau yn rhannu pŵer ac ers canol y 1980au yn bennaf drwy bleidlais fwyafrifol a thrwy hynny roedd sefydliadau rhyngwladol yn fwy nerthol na llywodraethau cenedlaethol.
Roedd dadl am gyfrifoldebau ar gyfer polisi tramor, milwrol a materion troseddol: roedd rhai eisiau eu trosglwyddo i'r Gymuned Ewropeaidd, ac eraill eisiau i'r llywodraethau cenedlaethol fod yn gyfrifol amdanynt. Fel cyfaddawd cyflwynwyd strwythur tair colofn er mwyn gwahanu'r cyfrifoldebau economaidd a thraddodiadol (megis colofn y Gymuned) i'r materion newydd (sef colofn CFSP a cholofn JHA).
Arwyddwyd Cytundeb Maastricht ar 7 Chwefror, 1992 ym Maastricht yn yr Iseldiroedd, lle bu trafodaethau terfynol ym mis Rhagfyr 1991. Daeth i rym ar 1 Tachwedd, 1993 a cafodd ei diwygio sawl gwaith ers hynny.
| Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1951/1952 | 1957/1958 | 1965/1967 | 1992/1993 | 1997/1999 | 2001/2003 | 2007/2009 (?) |
| U N D E B E W R O P E A I D D ( U E ) | ||||||
| Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD) | ||||||
| Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) | Cymuned Ewropeaidd (CE) | |||||
| Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom) | ||||||
| Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom | Cyfiawnder a Materion Cartref | |||||
| Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol mewn Materion Trosedd | ||||||
| Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC) | ||||||
| Cytundeb Paris | Cytundebau Rhufain | Cytundeb Cyfuno | Cytundeb Maastricht | Cytundeb Amsterdam | Cytundeb Nice | Cytundeb Lisbon |
|
"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd" (y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol) |
||||||
- ↑ "Founding agreements". Undeb Europeaidd. Cyrchwyd 5 Chwefror 2022.