OPEC

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner OPEC

Corff rhyngwladol o gynhyrchwyr olew yw OPEC (o'r Saesneg: Organization of the Petroleum Exporting Countries). Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC, sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.

Sefydlwyd OPEC ar 14 Medi 1960 yn Baghdad (Irac), gyda'r syniad yn dod o Feneswela. Yr aelodau gwreiddiol, heblaw Feneswela ac Irac, oedd Saudi Arabia, Iran a Kuwait. Yn ddiweddarach, daeth gwledydd eraill yn aelodau, er i rai adael wedyn: Qatar (1961), Indonesia (1962-2008), Libia (1962), Emiradau Arabaidd Unedig (1967), Algeria (1969), Nigeria (1971), Ecwador (1973-1992 a dod yn aelod eto Tachwedd 2007), Gabon (1975-1994) ac Angola (2007). Mae'r pencadlys yn Fienna.

Nid yw pob gwlad sy'n cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelod o OPEC; nid yw Canada, Mexico, Norwy, yr Unol Daleithiau, Rwsia ac Oman yn aelodau.

Aelodau OPEC mewn glas tywyll. Mae Gabon ac Indonesia (glas golau) wedi gadael OPEC.