1 Ionawr
Gwedd
| << | Ionawr | >> | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
| 1 | 2 | 3 | 4 | |||
| 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 |
| 12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
| 19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
| 26 | 27 | 28 | 29 | 30 | 31 | |
| 2026 | ||||||
| Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn | ||||||
1 Ionawr yw'r dydd 1af o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori. Erys 364 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn (365 mewn blynyddoedd naid). Ceir erthygl ar wahân ar Ddydd Calan a chalennig.
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]









- 193 - Pertinax yn dod yn Ymerawdwr Rhufain.
- 1136 - Y Cymry, dan arweinyddiaeth Hywel ap Maredudd, arglwydd lleol yng ngorllewin Brycheiniog, yn ennill buddugoliaeth drawiadol dros luoedd arglwyddi Normanaidd Gŵyr ar safle rhwng Llwchwr ac Abertawe.
- 1502 - Darganfod safle presennol Rio de Janeiro.
- 1515 - Ffransis I yn dod yn frenin Ffrainc.
- 1772 - Sieciau teithio yn cael eu rhyddhau am y tro cyntaf erioed, yn Llundain.
- 1801 - Iwerddon yn cael ei gorfodi i ymuno â Phrydain Fawr.
- 1804 - Annibyniaeth Haiti.
- 1814 - Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf Seren Gomer.
- 1839 - Darganfyddir Ynys Bouvet.
- 1877 - Y Frenhines Victoria yn dod yn Ymerawdwraig India.
- 1901 - Awstralia yn wlad hunanlywodraethol.
- 1912 - Sefydlu Gweriniaeth Tsieina.
- 1919 - Y llong "HMY Iolaire" yn taro creigiau yn harbwr Stornoway, gan ladd 205 o bobl.
- 1926 - Twrci yn dechrau defnyddio'r Calendr Gregoraidd.
- 1934 - Carchar yn Alcatraz yn derbyn ei garcharorion cyntaf.
- 1940 - Priodas Harold Wilson a Mary Baldwin.
- 1948 - Cyfansoddiad yr Eidal yn dod i rym.
- 1956 - Annibyniaeth Swdan.
- 1959 - Fidel Castro yn dod yn arweinydd Ciwba.
- 1960 - Rhan Ffrangeg ei hiaith Camerwn yn ennill annibyniaeth oddi wrth Ffrainc.
- 1961 - Darlledir Dechrau Canu, Dechrau Canmol am y tro cyntaf.[1]
- 1962 - Annibyniaeth Samoa.
- 1966 - Doler Awstralia yn cael ei gyflwyno.
- 1972 - Kurt Waldheim yn dod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
- 1973 - Denmarc, y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
- 1981
- Gweriniaeth Palaw yn cael ei chreu.
- Groeg yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
- 1982 - Javier Pérez de Cuéllar yn cael ei wneud yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
- 1984 - Annibyniaeth Brwnei.
- 1986 - Sbaen a Phortiwgal yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
- 1992 - Boutros Boutros-Ghali yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
- 1993 - Y Weriniaeth Tsiec a'r Weriniath Slofac yn dod yn wledydd ar wahân.
- 1995 - Awstria, y Ffindir a Sweden yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
- 1997 - Kofi Annan yn cael ei benodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
- 2002 - Deuddeg o aelod-wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn mabwysiadu arian cyfred yr Ewro.
- 2003 - Luiz Inácio Lula da Silva yn dod yn Arlywydd Brasil.
- 2007
- Rwmania a Bwlgaria yn ymuno â'r Undeb Ewropeaidd.
- Slofenia yn mabwysiadu'r Ewro.
- Ban Ki-moon yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
- 2008 - Cyprus a Malta yn mabwysiadu'r Ewro.
- 2009
- Tân mewn clwb nos yn Bangkok yn lladd 66 o bobl.
- Slofacia'n mabwysiadu'r Ewro.
- Priodas o'r un rhyw yn dod yn gyfreithiol yn Norwy.
- 2010 - Hunanladdiad yn Lakki Marwat, Pacistan, yn lladd 105 o bobl.
- 2011
- Estonia yn mabwysiadu'r Ewro.
- Dilma Rousseff yn dod yn Arlywydd Brasil.
- 2014 - Latfia yn mabwysiadu'r Ewro.
- 2015 - Lithwania yn mabwysiadu'r Ewro.
- 2017
- Ymosodiad terfysgol ar glwb nos yn Istanbul yn lladd 39 o bobl.
- António Guterres yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
- 2019
- Priodas o'r un rhyw yn dod yn gyfreithiol yn Awstria.
- Jair Bolsonaro yn dod yn Arlywydd Brasil.
- 2021 - Pandemig COVID-19: nifer achosion COVID-19 yn yr Unol Daleithiau yn cyrraedd 20,000,000.
- 2022 - Angladd Desmond Tutu.
- 2023
- Croatia sy'n mabwysiadu arian cyfred yr Ewros ac yn ymuno â Chytundeb Schengen.
- Lula da Silva yn dod yn Arlywydd Brasil am yr eildro.
- 2024
- Yr Aifft, Ethiopia, Iran, Sawdi Arabia a'r Emiradau Arabaidd Unedig yn ymuno â'r grwp BRICS.
- Gweriniaeth Artsakh yn cael ei diddyrnu.
- Priodas gyfunryw yn dod yn gyfreithol yn Estonia.
- Daeargryn maint 7.5 yn taro penrhyn Noto, Japan, gan ladd 222 o bobl.
- 2025
- Rwmania a Bwlgaria yn dod yn aelodau llawn o Gytundeb Schengen.[2]
- Wcráin yn atal nwy o Rwsia rhag llifo i Ewrop drwy'r wlad.
- Cerbyd yn cael ei yrru at dorf o bobl yn New Orleans, UDA, gan ladd 14 o bobl.[3]
- 12 o bobl yn cael eu lladd mewn saethu torfol yn Cetinje, Montenegro.[4]
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]


- 765 - Ali al-Rida, imam Shia (m. 818)
- 1431 - Pab Alecsander VI (m. 1503)
- 1449 - Lorenzo de' Medici, gwleidydd (m. 1492)
- 1484 - Ulrich Zwingli, diwygiwr crefyddol (m. 1531)
- 1723 - Goronwy Owen, bardd (m. 1769)
- 1768 - Maria Edgeworth, awdures (m. 1849)
- 1854 - Syr James George Frazer, anthropolegydd (m. 1941)
- 1863 - Pierre de Coubertin, pedagogydd a hanesydd (m. 1937)
- 1879
- Ernest Jones, seiciatrydd (m. 1958)
- E. M. Forster, nofelydd (m. 1970)
- 1894 - Satyendra Nath Bose, ffisegydd a mathemategydd (m. 1974)
- 1900 - Aniela Cukier, arlunydd (m. 1944)
- 1903 - Horace Evans, meddyg (m. 1963)[5]
- 1906 - Giovanni D'Anzi, cyfansoddwr a chanwr (m. 1974)
- 1909 - Stepan Bandera, gwleidydd (m. 1959)
- 1919 - J. D. Salinger, awdur (m. 2010)
- 1920 - Basil L. Plumley, milwr (m. 2012)
- 1923
- Valentina Cortese, actores (m. 2019)
- Ilda Reis, arlunydd (m. 1998)
- 1925 - Kossa Bokchan, arlunydd (m. 2009)
- 1926 - Conxa Sisquella i Planas, arlunydd (m. 1996)
- 1927 - Maurice Béjart, canwr a choreograffydd (m. 2007)
- 1933
- Waichiro Omura, pêl-droediwr (m. ?)
- Joe Orton, dramodydd (m. 1967)
- 1938 - Frank Langella, actor
- 1946 - Roberto Rivellino, pêl-droediwr
- 1956 - Christine Lagarde, gwleidydd
- 1969 - Verne Troyer, actor (m. 2018)
- 1970 - Stephen Kinnock, gwleidydd
- 1986 - Victoria Amelina, nofelydd (m. 2023)
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]

- 1515 - Louis XII, brenin Ffrainc, 52
- 1716 - William Wycherley, dramodydd, 75
- 1748 - Johann Bernoulli, meddyg, mathemategydd, ffisegydd a gwyddonydd, 80
- 1766 - James Francis Edward Stuart, 77
- 1782 - Johann Christian Bach, cyfansoddwr, 46
- 1894 - Heinrich Rudolf Hertz, ffisegydd, 36
- 1944 - Edwin Lutyens, pensaer, 74
- 1953 - Hank Williams, canwr, 29
- 1960 - Margaret Sullavan, actores, 50
- 1968 - Sara-Lisa Ryd, arlunydd, 49
- 1972 - Maurice Chevalier, canwr ac actor, 83
- 1979 - Frank Soskice, gwleidydd, 76
- 1983 - Maria Rudnitskaya, arlunydd, 66
- 1988 - Hiroaki Sato, pêl-droediwr, 55
- 1992 - Grace Hopper, gwyddonydd, 85[6]
- 1994 - Cesar Romero, actor, 86
- 1995 - Fred West, llofrudd cyfresol, 53
- 1996 - Conxa Sisquella i Planas, arlunydd, 70
- 1998 - Helen Wills, chwaraewraig tenis, 92
- 2001 - Ray Walston, actor, 86
- 2008 - Aled Rhys Wiliam, ysgolhaig, darlledwr a bardd, 81
- 2009 - Helen Suzman, actifydd a gwleidydd, 91
- 2010 - Claire Meunier, arlunydd, 81
- 2013
- Christopher Martin-Jenkins, cyflwynydd, 67
- Patti Page, cantores, 85
- Phyllis Wiener, arlunydd, 91
- 2015 - Boris Morukov, gofodwr, 64
- 2016 - Fazu Alieva, cantores, 83
- 2019 - Elizabeth Edgar, botanegydd, 89
- 2023 – Lise Nørgaard, awdures Danaidd, 105[7]
- 2025 - Sally Oppenheim, gwleidydd, 96
Gwyliau a chadwraethau
[golygu | golygu cod]- Dydd Calan
- Gŵyliau'r seintiau: Gwynhoedl, Hywyn Machraith, Maelrys (gweler Llanfaelrhys), Medwy a Thyfrydog[8].
- Diwrnod Annibyniaeth (Haiti, Swdan, Brwnei)
- Diwrnod Chwyldro (Ciwba)
- Topi Diwas (Nepal)
- Seithfed diwrnod Kwanzaa (yr Unol Daleithiau)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dechrau Canu, Dechrau Canmol". Radio Times. Cyf. 149 rhif. 1938 (arg. Llundain). BBC Publications. 29 Rhagfyr 1960. t. 16. ISSN 0033-8060. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2014. Cyrchwyd 25 Ionawr 2020.
- ↑ "Borders open: Bulgaria and Romania celebrate joining Schengen Area". Euronews (yn Saesneg). 1 Ionawr 2025. Cyrchwyd 1 Ionawr 2025.
- ↑ "Ten dead after vehicle drives into large crowd in New Orleans, authorities say". BBC News. 1 Ionawr 2025. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2025. Cyrchwyd 1 Ionawr 2025.
- ↑ "At least 10 killed and 4 more wounded in Montenegro shooting". The Guardian (yn Saesneg). Associated Press. 1 Ionawr 2025. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-01-01.
- ↑ Evan David Jones (1997). "EVANS, HORACE, y Barwn Evans cyntaf o FERTHYR TUDFUL (1903-1963), meddyg". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 5 Ionawr 2026.
- ↑ "Grace Murray Hopper (1906–1992): A legacy of innovation and service". YaleNews (yn Saesneg). 10 Chwefror 2017.
- ↑ "Lise Nørgaard er død: Hun blev 105 år". DR. 2023-01-02. Cyrchwyd 2 Ionawr 2023.
- ↑ Baring-Gould, S. (1907). The lives of the British Saints: the Saints of Wales and Cornwall and such Irish Saints as have dedications in Britain. Llundain: C. J. Clark (ar gyfer Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion), tud. 70. URL
