Edwin Lutyens

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Pensaer o Sais oedd Syr Edwin Landseer Lutyens (29 Mawrth 18691 Ionawr 1944). Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y Mudiad Celf a Chrefft. Roedd ganddo ddealltwriaeth gref o draddodiadau adeiladu gwerinol yn ogystal â phensaernïaeth glasurol. Ym marn llawer o feirniaid mae ei weithiau yn crynhoi'r feddylfryd Edwardaidd, Seisnig i'r dim, ac mae'r plastai cynnar a gynlluniwyd ganddo'n cyfuno rhamantiaeth â chlasuriaeth mawreddog. Yn dilyn chwalu'r byd hwn yn y Rhyfel Byd Cyntaf cynlluniodd Lutyens rai o gofadeiladau mwyaf cofiadwy ei oes, yn enwedig y Senotaff yn Llundain a Chofeb Thiepval i Golledigion y Somme.

Ymhlith ei gynlluniau mwyaf uchelgeisiol roedd prifddinas newydd ar gyfer India, Delhi Newydd, a chadeirlan Gatholig enfawr yn Lerpwl; dim ond crypt yr adeilad hwn a adeiladwyd i'w gynlluniau. Canmolwyd Lutyens fel "pensaer gorau [Prydain] ers Wren"[1] ac ef oedd y dylanwad mwyaf ar bensaernïaeth clasurol yng ngwledydd Prydain yn yr 20g cynnar, ond ystyrir hefyd ei fod wedi bod yn ddylanwad ceidwadol iawn ar adeg pan oedd pensaernïaeth fodern yn datblygu ar y cyfandir.

Roedd Lutyens yn Arlywydd Academi Frenhinol y Celfyddydau o 1938 hyd ei farwolaeth ym 1944.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Stamp, Gavin. Lutyens, Edwin. Oxford Art Online. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2014.