Y Senotaff, Llundain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Senotaff
Portland.stone.cenotaph.london.arp.jpg
Math cofeb ryfel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1919 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Dinas Westminster Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 51.5°N 0.13°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Deunydd Carreg Portland Edit this on Wikidata

Cofeb ryfel yn Whitehall, Llundain yw'r Senotaff (Saesneg: Cenotaph, o'r gair yn iaith Roeg am fedd gwag).[1] Mae'n coffáu'r milwyr Prydeinig a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r rhyfeloedd ers hynny. Dyma ganolbwynt y seremoni coffáu gwladol a gynhelir yn flynyddol ar Sul y Cofio. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Syr Edwin Lutyens mewn pythefnos yng Ngorffennaf 1919, ar gyfer pen-blwydd y Cadoediad. Pren a phlastr oedd deunyddiau'r cofeb dros dro hon; adeiladwyd fersiwn carreg parhaol yn y flwyddyn olynol.[2] Mae'r cynllun wedi bod yn ddylanwadol iawn ar gofadeiladau ledled y byd; ceir fersiynau ohono yn Awstralia, Bermuda, Canada, Hong Kong a Seland Newydd. Mae fersiwn bychan ohono a godwyd ym 1924, eto i gynlluniau Lutyens, ym Marics Maendy, Caerdydd.[3]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Fersiwn bychan yng Nghaerdydd 
Senotaff Hong Kong 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) The Cenotaph. National Heritage List for England. English Heritage. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2014.
  2. (Saesneg) The Cenotaph. Veterans UK. Adalwyd ar 7 Tachwedd 2014.
  3. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. p. 287.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]